Ysgol y Brenin Harri VIII, Y Fenni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ysgol y Brenin Harri VIII
Ut Prosim logo, KHS Abergavenny.jpeg
Arwyddair Parchu traddodiad, cynnwys y dyfodol
Sefydlwyd 1542
Math Cyfun
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Elspeth Lewis
Lleoliad Hen Heol Henffordd, Y Fenni, Cymru, NP7 6EP
Cyfesurynnau 51°49′53″N 3°01′02″W / 51.8313°N 3.0173°W / 51.8313; -3.0173
AALl Cyngor Sir Fynwy
Staff 80
Disgyblion 1200
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd 4: Aragon, Howard, Parr, Seymour.
Lliwiau du a melyn
Gwefan http://www.kinghenryviiischool.org.uk


Ysgol uwchradd gyfun yn y Fenni, Sir Fynwy, yw Ysgol y Brenin Harri VIII.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlu 1542-1664[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn dilyn diwygiad Protestanaidd y 1530au, rhoddwyd breinlythyrau'n sefydlu'r ysgol newydd 24 Gorfennaf, 1542. Yn y rhain, y trosglwyddwyd y degwm a fu'n eiddo eglwysi Llanfihangel Crucornau, Llanddewi Rhydderch, Llanelen, Llanddewi Ysgyryd, Bryngwyn, a Llanwenarth, ynghyd â Phriordy'r Benedictiaid, yn hytrach i'r ysgol newydd. Ar ben hynny, rhoddwyd hefyd degymau Badgeworth yn Swydd Gaerloyw, a fu gynt yn mynd i'r priordy ym Mrynbuga, i ddefnydd trefolion y Fenni. Yn olaf, gan fod capel priordy'r Benedictiaid, Eglwys y Santes Fair, wedi ei throi'n eglwys i'r plwyf, penderfynwyd defnyddio hen egwlys Sant Ioan fel ysgoldy.

Rhoddwyd yr arian a ddaeth o'r degymau hyn i ymddiriedolaeth dan reolaeth "the bailiffs and commonality", rhagflaenwyr y cyngor tref. Roedd i ddarparu ar gyfer ysgol ramadeg lle dysgid Lladin. Enwyd yr ysgol newydd ar ôl ei noddwr, Harri VIII, brenin Lloegr, a benodwyd prifathro cyntaf yr ysgol, Richard Oldsworthy. Ar ei hagoriad, roedd gan yr ysgol 26 disgybl, pob un yn fachgen rhwng 7 a 14 oed.

Y cysylltiad â Choleg yr Iesu, Rhydychen 1664-1887[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd canrif cyntaf hanes yr ysgol yn ddigon ddiddigwyddiad gyda newid yn dod dim ond wedi camreolaeth gan yr ymddiriedolwyr lleol a osodai'r tiroedd ym Badgeworth ar brydles am lai na'u gwerth: pan ddaeth y brydles 99-mlynedd i ben ym 1644 trosglwyddwyd y rheolaeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen, a roddodd rent hafal ynghyd â chymrodoriaeth ac ysgoloriaeth i'r coleg hefyd. Bu hyn yn ddechreuad ar berthynas agos rhwng yr ysgol â'r coleg, lle cyfnewidid llawer un o ddisgyblion yr ysgol am sawl prifathro o Rydychen.

Aildrefnwyd rheolaeth yr ysgol gan ddeddf seneddol ym 1760. Bellach byddai Coleg yr Iesu, a enillodd y degwm o Swydd Gaerloyw, yn gyfrifol am gyflogi'r prifathro a'i dirprwy. Cafodd y ddeddf ychydig effaith wrth i'r hen adeilad gael ei ddymchwel ac i dŵr a thŷ crand gael eu hadeiladu yn ei lle. Saif y rheiny hyd heddiw. Erbyn i'r Parchedig William Morgan gyrraedd y llyw (1765-75) roedd yr ysgol yn ffynnu gyda 70-80 o fechgyn.

Dechreuodd newid eto yn y 1870au. Ad-drefnodd y prifathro James Webber y cwricwlwm, gan ddysgu'r clasuron, mathemateg, llunio, Ffrangeg, ysgrifennu, diwynyddiaeth, a rhifyddeg. Adeiladodd ddwy ystafell ddosbarth o fewn terfynau safle Eglwys Sant Ioan. Erbyn 1878 roedd 73 bachgen yn cael eu dysgu gan 3 meistr. Erbyn 1887 paratôdd y comisiynwyr elusennol gynllun i greu ysgol ar safle newydd, a'r cynnig hwn ddaeth â'r perthynas â Choleg yr Iesu i ben.

Canrif o ad-drefnu 1891-1972[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr ymgais cyntaf i ad-drefnu oedd y cynllun yn 1891 a'r cynnig i greu ysgol i 200 o ddisgyblion ar safle 9-erw ym Pen-y-Pound. Bu peth oedi oherwydd amryw broblemau ac ni orffenwyd y gwaith adeiladu tan 1898, wedi costio £6,945. Roedd yr ysgol i fod yn ysgol ramadeg i ddisgyblion ar draws gogledd yr hen Sir Fynwy gan ddysgu Lladin, Saesneg, hanes, daearyddiaeth, Ffrangeg, rhifyddeg, algebreg, trigonometreg, a chemeg.

Yn ystod y 1920au adeiladwyd tair ystafell ddosbarth, a hefyd llyfrgell a mabolgampfa. Sefydlwyd Cymdeithas yr Hen Fechgyn mewn cyfarfod 7 Tachwedd 1923, a chyn hir roedd yn ffynnu â changhennau yn Llundain ac yn Aberystwyth. Erbyn y 1930 roedd gan yr ysgol 150 o ddisgyblion. Cyflwynwyd y gwyddorau newydd, Ffiseg a Bioleg, yn ystod y cyfnod ac adeiladwyd ystafell crefftiau newydd wrth i bwysigrwydd gwaith pren a gwaith metel gynyddu.

Yn dilyn Deddfy Addysg Butler yn 1944, cynigiodd Cyngor Sir Fynwy dri dewis ar gyfer y Fenni: ysgolion gramadeg i fechgyn ac i ferched, ac ysgol uwchradd fodern; ysgol ramadeg gymysg ac ysgol uwchradd fodern; neu ysgol amlochrog. Rhoddwyd gynnig ar bob yn o'r tri yn ystod y 25 mlynedd nesaf.

Ymddeolodd y prifathro Harry Newcombe yn 1954. Llwyddodd i ennill enw da i'r ysgol fel ysgol ramadeg glasurol. Cyhoeddodd yr awdurdod addysg lleol hysbysiad stadudol 21 Medi 1954 i sefydlu ysgol amlochrog i 850 o blant drwy gyfuno'r ysgolion gramadeg i fechgyn a merched. Rhwng 1954 a 1956 creodd yr awdurdod gynlluniau ar gyfer ysgol ramadeg fwy, yn darparu lle yn y diwedd i 510 plentyn gyda 60 disgybl yn y chweched dosbarth.

Roedd yr ysgol newydd ar Hen Heol Henffordd i fod y cam cyntaf i'r ysgol amlochrog. Hi heddiw yw adeilad yr ysgol uchaf. Roedd i gynnwys neuadd gynullfaol, mabolgampfa, a thri llawr o ystafelloedd ddosbarth ac ystafelloedd ymarferol. Dechrewyd y gwaith adeiladu ym 1960 ac agorwyd yr ysgol ym 1963. Cyfanswm disbyblion yr ysgol, i fod, oedd 448, gan gynnwys plant o ysgol ramadeg y Brenin Harri VIII i fechgyn, yr ysgol ganolradd i ferched, ysgol breifat Sant Ioan, a'r ysgol gwfaint.

Cwblhaodd y newid o ysgolramadeg gymysg i ysgol gyfun o dan arweiniad y prifathro Russell Edwards. Wrth wneud roedd rhaid adeiladu ysgol newydd yn gyfagos at y safle ym Pen-y-Pound. Roedd yr ysgol hefyd yn llyncu ysgol uwchradd fodern Grofield a sefydlwyd ym 1947. Cyn i'r ysgol newydd gael ei gorffen ym 1972 roedd hyn yn golygu bod rhaid i staff a disgyblion yr ysgol deithio rhwng gwahanol safleoedd yr ysgol. Cadwyd yr ysgol gyfun enw'r ysgol ramadeg, a throes adeilad yr ysgol ramadeg yn 'Ysgol Uchaf' a rhoddwyd yr enw 'yr Ysgol Isaf' ar yr adeilad newydd.

Llysoedd yr Ysgol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd gan yr ysgol ddau lys yn wreiddiol: Rustican ac Oppidan, o'r Lladin am wlad a thref. Wrth i'r ysgol dyfu creodd strwythur newydd o bedwar llys wedi eu henwi ar ôl rhai o wragedd Harri VIII, brenin Lloegr: Aragon, Parr, Howard, a Seymour. Mae'r llysoedd hyn yn dal i gystadlu yn eisteddfodau blynyddol ac mewn achlysuron mabolgampau.

Prifathrawon a Phenaethiaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r penaethiaid a wyddys amdanynt, fel y canlyn:

  • 1542 Richard Oldsworthy
  • c.1626 Morgan Lewis
  • c.1631 Morris Hughes
  • 1643-1661 Henry Vaughan
  • 1661-1662 John Cragge
  • 1662-1663 Thomas Franklyn
  • 1663 Nicholas Billingsley
  • 1670-1674 Richard Lucas
  • 1674-1684 Henry Rogers
  • 1702-1712 Morgan Lewis
  • 1713-1716 Thomas Watkins
  • 1716-1724 William Parry
  • 1724-1732 William Thomas
  • 1765-1775 William Morgan
  • 1775-1786 Edmund Sandford
  • 1786-1795 John George
  • 1795-1800 Charles Powell
  • 1800-1805 John Hughes
  • 1805-1806 John Llewellyn
  • c.1821 Thomas Williams
  • 1821-1823 Charles Hand
  • 1823-1828 Aaron Rogers
  • 1828-1832 Jenkin Hughes
  • 1833-1834 James Jones
  • 1834-1835 James Gabb
  • 1835-1876 Henry Peake
  • 1876-1898 James Webber
  • 1898-1919 Headland Sifton
  • 1919-1954 Harry Newcombe
  • 1954-1960 Thomas Edwards
  • 1960-1962 Harold Sharpe
  • 1962-1968 Gilmour Isaac
  • 1968 Leonard Porter
  • 1969-1985 Russell Edwards
  • c.1985 Derek Fisher
  • c.1995 M Brierly
  • 2001-2009 Gareth Barker
  • 2009- 2013 Nicholas Oaten
  • 2013-2014 Yvonne Jones
  • 2014- Elspeth Lewis

Cynddisgyblion nodedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato