David Lewis (cyfreithiwr)
| David Lewis | |
|---|---|
| Ganwyd | 1520 Y Fenni |
| Bu farw | 27 Ebrill 1584 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, barnwr, cyfreithiwr |
| Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1553, Aelod o Senedd 1554-55 |

Cyfreithiwr a barnwr o'r Fenni oedd David Lewis (neu Lewes;[1] c. 1520 – 27 Ebrill 1584); ef hefyd oedd Prifathro cyntaf Coleg yr Iesu, Rhydychen am gyfnod byr rhwng sefydlu'r coleg ar 27 Mehefin 1571 a 1572 cyn mynd yn farnwr i Gwrt y Morlys.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd yn y Fenni yn fab i Lewis Wallis, ficer y Fenni a Llandeilo Pertholau. Priododd Lleucu (Lucy), merch Llewelyn Thomas Lloyd o Fedwellte.
Ysgol a choleg
[golygu | golygu cod]Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Harri VIII yn y dref. Graddiodd yn Fachellor mewn Cyfraith Sifil (BCL) yn Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen yn 1540 a DCL yn 1548, gan ddod yn gymrawd yn y coleg hwnnw yn 1541.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 1546 fe'i penodwyd yn Brifathro'r New Inn Hall, coleg a drodd yn 1881 yn rhan o Goleg Balliol, Rhydychen. Yn 1549 fe'i derbyniwyd yn gyfreithiwr-adfocad yn Doctors' Commons (neu 'Goleg y Sifiliaid'), sef cymdeithas o gyfreithwyr. Roedd yn Feistr y Siawnseri yn 1553 a bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Steyning rhwng 26 Hydref a Rhagfyr 1553 ac yna dros etholaeth Sir Fynwy rhwng 8 Tachwedd 1554 a Ionawr 1555.
Penodwyd Lewis yn farnwr uchel y Morlys yn 1558 a bu ynghanol achosion am ysbeilio yn erbyn Sbaenwyr a chyhuddiadau eraill yn ymwneud â morladrata e.e. roedd yn ymwneud a'r achos yn erbyn Martin Frobisher.[2]
Fe oedd Prifathro cyntaf Coleg yr Iesu, Rhydychen (1571-2).[3] Yn ystod y cyfnod byr hwnnw arwyddodd ddeiseb y gellid cosbi llysgennad Mari I, Brenhines yr Alban am gynllwynio yn erbyn Elisabeth I, brenhines Lloegr. Yn 1575 daeth yn Gomisiynydd y Llynges, ynghyd â John Herbert.[2]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Hen lanc ydoedd pan y bu farw ar 27 Ebrill 1584 (442 mlynedd yn ôl). Claddwyd ei gorff ym Mhriordy'r Santes Fair, y Fenni ar y 4ydd o Fai.[2][3][4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 17 Medi 2015
- 1 2 3 Watkin, Thomas Glyn. "Lewis, David (c.1520–1584)". Oxford Dictionary of National Biography (angen mewngofnodi). Gwasg Prifysgol Rhydychen. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2007. Italic or bold markup not allowed in:
|work=(help) - 1 2 Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 8 Hydref 2015
- ↑ Monmouthshire gan George Wöosung Wade; adalwyd 17 Medi 2015