Bedwellte
| Math | pentrefan |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bwrdeistref Sirol Caerffili |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.6954°N 3.2072°W |
| Cod OS | SO166004 |
| Gwleidyddiaeth | |
| AS/au Cymru | Rhianon Passmore (Llafur) |
| AS/au y DU | Nick Smith (Llafur) |
![]() | |
Pentrefan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Bargod, Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cymru, yw Bedwellte[1] (Saesneg: Bedwellty).[2] Fe'i lleolir ger pentref Argoed tua 3 milltir i'r gogledd o'r Coed Duon.
Cysegrwyd eglwys y plwyf i Sant Sannan. Ceir Ffynnon Sant Sannan ger yr eglwys. Yr unig le arall a gysylltir â'r sant hwn yw plwyf Llansannan yn Sir Conwy. Mae'n bosibl y bu dau sant o'r un enw, un yn frodor o ogledd Cymru a'r llall yn Wyddel (Gwyddeleg: Senanus/Senan) o dalaith Munster a ymsefydlodd yng Nghymru yn amser Dewi Sant ac a sefydlodd glas ym Medwellte.[3]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Nick Smith (Llafur).[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
- ↑ T.D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu
