Y Groes-wen
| |
Daearyddiaeth | |
---|---|
Sir |
Caerffili ![]() |
Gwlad |
![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hefin David (Llafur) |
AS/au | Wayne David (Llafur) |
Pentref bychan ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yw'r Groes-wen (hefyd: Groeswen). Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r de-ddwyrain o dref Caerffili, tua 5 milltir i'r gogledd o gyrion Caerdydd yn ne Cymru.
Ganwyd y peiriannydd William Edwards yn fferm Tŷ Canol, y Groes-wen ac ef oedd sylfaenydd ac adeiladydd Capel Groeswen a agorwyd yn Awst 1742.
Treuliodd y bardd William Williams (Caledfryn) ei flynyddoedd olaf fel gweinidiog gyda'r Annibynwyr yn y Groes-wen. Bu farw ar 23 Mawrth 1869 ac fe'i claddwyd ym mynwent y capel.
Mae'r llenor a newyddiadurwr Ieuan Gwynedd hefyd wedi ei gladdu ym mynwent y Groes-wen.
Y Groeswen oedd cartref William Cosslett (Gwilym Elian, 1831-1904) oedd yn swyddog glofa a bardd. Fe'i ganed yn Nantyceisiaid, Machen, sir Fynwy, yn fab i Walter Cosslett (m. 1879). Roedd ei frodyr Coslett Coslett (Carnelian), Thomas Coslett (Y Gwyliedydd Bach) a Cyrus Coslett (Talelian) hefyd yn feirdd.
Priododd Mary Ann Thomas (m. 1896) ym 1855. Erbyn y 1850au roedd yn byw yn y Groeswen, ac yn ddiweddarach yn Hendredenny a Chaerffili, i gyd ym mhlwyf Eglwysilan (Eglwys Elian), Morgannwg. Gyda'i frawd Carnelian roedd yn aelod o'r cylch o feirdd 'Clic y Bont' ym Mhontypridd. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol ond ni chafodd lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu farw 22 Medi 1904 yng Nghaerffili.
Mae capel y Groeswen wedi ei restri fel adeilad Gradd 2 tra bod nifer o'r beddfeini wedi ei rhestri fel strwythurau Gradd2*.
Aberbargoed · Abercarn · Abertridwr · Argoed · Bargoed · Bedwas · Bedwellte · Brithdir · Caerffili · Cefn Bychan · Cefn Hengoed · Coed-duon · Crymlyn · Cwmcarn · Chwe Chloch · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-Meistr · Rhisga · Rhydri · Rhymni · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Waterloo · Wyllie · Ynys-ddu · Ystrad Mynach
