Brithdir, Caerffili
| Math | pentref |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.7098°N 3.2281°W |
| Cod OS | SO155015 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Etholaeth y Senedd | Blaenau Gwent Caerffili Rhymni |
| Etholaeth y DU | Nick Smith (Llafur) |
![]() | |
- Am leoedd eraill o'r un enw gweler Brithdir.
Pentref bychan yng nghymuned Tredegar Newydd, Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cymru, yw Brithdir.[1][2] Fe'i lleolir yng Nghwm Rhymni i'r de o bentref Tredegar Newydd. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Gelli-gaer.
Sefydlwyd Brithdir ar ddechrau'r 20g fel pentref glofaol ar gyfer gweithwyr ym mhwllau glo'r ardal.
Hyd at 1922, safai carreg gydag arysgrif Ladin arni yn enwi un Tegernacus, mab Martius. Mae'n bosibl y cafodd y garreg ei chodi yn y 7g. Safai mewn cae ger Capel Brithdir. Yn 1922 cafodd ei symud i Amgueddfa Cymru, Caerdydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu
