Bargod

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bargoed
Bargoed, High Street.jpg
Math Tref, Cymuned Edit this on Wikidata
Ynganiad LL-Q9309 (cym)-Jason.nlw-Bargoed.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Caerffili Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.6947°N 3.2231°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000728 Edit this on Wikidata
Cod OS ST145995 Edit this on Wikidata
Cod post CF81 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Hefin David (Llafur)
AS/au Wayne David (Llafur)

Mae Bargod[1][2] yn dref a chymuned ar lan afon Rhymni i'r gogledd o Gaerffili ym Morgannwg, Cymru. Fe'i gweinyddir fel rhan o fwrdeistref sirol Caerffili. Mae marchnad wythnosol yn y dre. Mae Caerdydd 23.3 km i ffwrdd o Bargoed ac mae Llundain yn 217.7 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 20.2 km i ffwrdd.

Yn wreiddiol roedd yn dref farchnad wledig, ond tyfodd i fod yn dref sylweddol yn dilyn agor pwll glo yn 1903. Caeodd y pwll glo yn ystod y 1980au, ac mae'r safle nawr yn gartref i barc gwledig.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Hefin David (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Wayne David (Llafur).[3][4]

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ceir yn gyntaf, wedi'i ysgrifennu, yn 1799, felly bathiad cymharol ddiweddar ydyw. Mae'n tarddu o enw'r nant "Nant Bargod Rhymni" sy'n llifo i lawr Mynydd y Fochriw i afon Rhymni yn Aberbargoed (Aber Bargoed oedd ffurf 1578). Mae enw'r nant, fodd bynnag, yn llawer hŷn; fe'i gwelir gyntaf yn 1170 "Bargau Remni". Roedd y nant yn ffin naturiol rhwng tiroedd brithdir a Senghennydd Uwch Caeach. Gyda thwf diwydiant 19eg ganrif, galwyd y tir ar yr ochor ddwyreiniol yn Aberbargoed (Aberbargod, 1729), Pontaber Bargoed yn 1794). Galwyd yr ochor orllewinol yn Bargoed. Bargod, felly, oedd y ffurf gynharaf, a hynny'n golygu "ffin". Newidiwyd yr enw, mae'n debyg, oherwydd dylanwad llefydd cyfagos megis Penycoed ac Argoed.[5]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bargod (pob oed) (11,900)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bargod) (1,143)
  
10%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bargod) (10874)
  
91.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Bargod) (2,246)
  
44.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg y Brifysgol; cyhoeddwyd 2008; tud 67
  2. Gwefan Enwau Cymru (Canolfan Bedwyr; adalwyd 17 Mehefin 2013
  3. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan (gol.), Dictionary of the Place-names of Wales, Gwasg Gomer, 2007.
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013