Pont-y-meistr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a saif i'r de o dref Rhisga yw Pont-y-meistr (Saesneg: Pontymister). Fferm o'r enw Tŷ Isaf oedd y lleoliad yn wreiddiol, ond daeth y pentref i fodolaeth mewn ymateb i'r angen am dai ar gyfer gweithwyr y felin ddur a'r gweithiau cemegol gerllaw. Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r tai rhwng 1920 ac 1925.

Roedd gweithfeydd dur Pont-y-Meistr yn enwog fel mynwent hen drenau stêm. Daethpwyd â'r rhan fwyaf yno yn yr 1960au cynnar er mwyn manteisio ar eu gwerth fel metel sgrap, achubwyd rhai a symudwyd hwy i Ddociau y Barri.

Mae nifer o dafarndai lleol yn dal i fod ag enwau sy'n ymwneud a'r diwydiant dur: The Rolling Mill, The Forge Hammer ayb.

Mae llwybr hir y Ffordd Sistersiaidd (Cymru) wedi ei farcio ac yn pasio drwy Bont-y-Meistr.[1]

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ffordd Sistersiaidd ar wefan Cyngor Casnewydd


CymruCaerffili.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato