Nelson, Caerffili

Oddi ar Wicipedia
Nelson
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,647 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,098.63 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTreharris Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6513°N 3.2806°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000739 Edit this on Wikidata
Cod OSST115995 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHefin David (Llafur)
AS/auWayne David (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Nelson[1][2] neu (yn wreiddiol) Ffos-y-Gerddinen. Saif bum milltir i'r gogledd o dref Pontypridd.

Dywedir i'r pentref gael ei enw Cymraeg o goed gerddinen sy'n tyfu yn yr ardal. Daw enw tafarn yn y pentref, "The Rowan Tree" ("Y Goeden Gerddinen") o hyn hefyd. (Bu enw Saesneg pentref Aberpennar, sef "Mountain Ash", yn debyg hefyd.) Cafodd y pentref yr enw "Nelson" o dafarn yno o'r enw "Lord Nelson Inn"; enwyd y dafarn honno ar ôl yr Arglwydd Nelson a ymwelodd â'r lle yn 1803 - dwy flynedd cyn Brwydr Trafalgar.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur) a'r Aelod Seneddol San Steffan yw Wayne David (Llafur).[3][4]

Ceir prif swyddfa Dŵr Cymru yn Ffos y Gerddinen, ac mae cwrt pêl-law awyr agored yn y pentref, efallai yr unig un o'i fath yng Nghymru. Lleolir maenor Tuduraidd Llancaiach Fawr ger y pentref.

Tyfodd y pentref ar ddechrau y 19g oherwydd Pwll Glo Llancaiach a Phwll Glo Penallta gerllaw.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Nelson, Caerffili (pob oed) (4,647)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nelson, Caerffili) (553)
  
12.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nelson, Caerffili) (4171)
  
89.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Nelson, Caerffili) (782)
  
39.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod]

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Mae'r clwb Rygbi'r undeb, y "Nelson Unicorns", yn un o'r hynaf yng Nghymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]