Aberpennar

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aberpennar
MountainAshTownHall.jpg
Math Tref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Mountain Ash Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.6814°N 3.3792°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000693 Edit this on Wikidata
Cod OS ST025915 Edit this on Wikidata
Cod post CF45 Edit this on Wikidata
Cod deialu 01443 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Vikki Howells (Llafur)
AS/au Ann Clwyd (Llafur)

Tref a chymuned yn Rhondda Cynon Taf, Cymru yw Aberpennar (Saesneg: Mountain Ash), a leolir yng Nghwm Cynon. Mae ganddi boblogaeth o 7,039.[1] Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Cefnpennar, Cwmpennar, Darranlas, Glenboi a'r Drenewydd. Yn hanesyddol, mae'n rhan o Forgannwg.

Llifa Afon Cynon heibio'r dref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Ann Clwyd (Llafur).[2][3]

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn hanesyddol, cyfeiriodd yr enw Aberpennar at y fan lle rhed nant Pennar (neu Penarth yn y ffurfiau cynharaf) i Afon Cynon ar ddiwedd ei chwrs i lawr o dir uchel Cefnpennar, ac ar ochr ogleddol tro yn y afon honno. Ceir y ffurf aber pennarthe ym 1570, Aberpennarth ym 1600, a Tir Aber Penarth ym 1638. Yn ôl Gwynedd O. Pierce mae'n bosib taw ffurf amrywiol yw enw'r nant ar "pennardd", sef pentir neu gefnen i dir, yn yr achos hon tir uchel Cefnpennar, lle mae ei tharddiad. Ger y tir a elwid Aberpennar safai plasty'r teulu Bruce (o 1750) a âi dan yr enw Dyffryn, ac ar un adeg ceid Aberpennar fel enw amgen i'r plasty hefyd: Aberpennar alias Dyffryn ym 1691, a Dyffrin alias Aberpennar ym 1717.[4]

Yn wreiddiol, enw tafarn a godwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif mewn man ar y stryd a elwir yn Commercial Street heddiw yw enw Saesneg y dref, Mountain Ash. Nid yw'n sicr pwy a'i henwodd a phaham, ond yn ôl un ffynhonnell y tirfeddiannwr John Bruce Pryce a'i henwodd, a medd rhai taw cerddinen (yn Saesneg: mountain-ash) a safai gerllaw oedd ysbrydoliaeth yr enw. Dyddia'r enw o'r 1830au, ac ym 1852 cyfeiriodd dogfen at Mountain Ash Inn mewn pentref o ryw chwe chant o dai a oedd ar fin tyfu'n dref ddiwydiannol, ac a enwyd ar ôl y dafarn,a hynny yn is i lawr yr afon na phlasty'r Dyffryn, ac ar yr ochr orllewinol.[4]

Ysgrifennodd Dafydd Morganwg y camgymeriad hwn yn ei Hanes Morganwg (1874): "Enw cyntefig y lle oedd Aberpenar". Roedd William Thomas (Glanffrwd), ym 1878–88, yn dal i ofidio nad oedd i'r lle "a adwaenir mwyach wrth ei enw Saesneg, Mountain Ash" enw Cymraeg. Dim ond ar droad yr 20g y trosglwyddodd yr hen enw Aberpennar o ochr arall yr afon i ddod yn enw Cymraeg safonol y dref, yn bosib adeg cynnal Eisteddfod Genedlaethol 1905 yno yn ôl Gwynedd O. Pierce.[4]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o lefydd yng Nghymoedd De Cymru, ni ddatblygwyd y dref ryw lawer gan ddiwydiant; eithriad i hyn yw Camlas Aberdâr yn 1818 ond a lenwyd a'i addasu'n ffordd (sef Ffordd Newydd Caerdydd) yn gynnar yn 1933.[5]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberpennar (pob oed) (7,374)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberpennar) (740)
  
10.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberpennar) (6652)
  
90.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Aberpennar) (1,512)
  
46.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberpennar ym 1905 a 1946. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Office for National Statistics : Census 2001 : Parish Headcounts : Rhondda Cynon Taf Adalwyd 15 Gorffennaf 2012
  2. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. 4.0 4.1 4.2 Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen. Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1997), t. 9.
  5. "Mountain Ash". Rhondda Cynon Taff. http://webapps.rhondda-cynon-taff.gov.uk/heritagetrail/cynon/mountain_ash/mountainash.htm. Adalwyd 2009-01-01.
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013