Neidio i'r cynnwys

Aberllechau

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Wattstown)
Aberllechau
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6341°N 3.4196°W Edit this on Wikidata
Cod OSST018937 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElizabeth (Buffy) Williams (Llafur)
AS/au y DUChris Bryant (Llafur)
Map

Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Aberllechau[1] (Saesneg: Wattstown; hen enwau: Pont Rhyd y Cwtch a Phont-y-Cwtch),[2] a leolir ar lan afon Rhondda Fach yng nghymuned Ynys-hir. "Aberllechau" oedd enw un o'r dair fferm yn yr ardal, cyn dechrau cloddio am lo. Roedd "Pont Rhyd-y-Cwtsh" yn enw arall am yr ardal, a llysenw'r lofa oedd 'Glofa'r Cwtsh'.

Ysgol Gynradd Aberllechau yw enw'r ysgol leol.[3]

Cyn i ddiwydiant gyrraedd y cwm, canol y 19g, ardal goediog ydoedd, gyda phoblogaeth denau o ffermydd yma ag acw. Gyda dyfodiad y diwydiant glo daeth Aberllechau yn bentref prysur, â phoblogaeth gref, ond gyda chau'r pyllau glo dioddefodd Aberllechau ddirywiad economaidd enbyd, tlodi sy'n dal i effeithio ar y pentref hyd heddiw.

Enwir yr enw Saesneg, Wattstown ar ôl Edmund Hannay Watts, a oedd ar un adeg yn berchen ar Lofa'r National yn Aberllechau.

Hanes cynnar a diwydiannu

[golygu | golygu cod]

Y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch dynol o amgylch yr hyn a ddaeth yn Aberllechau yw'r un a geir ar ochr y bryn yng Ngharn y Wiwer, sy'n edrych dros y pentref; mae grŵp bach o garneddau Oes yr Efydd yno, ac yn yr un cyffiniau mae olion pum tŷ llwyfan a thai fferm o'r Oesoedd Canol.[4] Yn ystod Rhyfeloedd Napoleon, cafodd y tir o amgylch Carn y Wiwer ei drin gan ffermwyr i gynhyrchu cnydau ychwanegol. Cyn y diwydiannu mawr, roedd yr ardal yn cael ei hadnabod fel Pont Rhyd y Cwch neu Bont-y-Cwtch.

O'i gymharu ag ardaloedd eraill yn y Rhondda, roedd Aberllechau yn araf i gael ei ddatblygu fel ardal lofaol. Cafodd y pwll glo dwfn cyntaf, Glofa'r National, a elwid yn wreiddiol yn Cwtch Colliery cyn cael ei ailenwi'n Standard, ei suddo rywbryd ddiwedd y 1870au gan Richard Evans ac ymddangosodd gyntaf ar Restr Mwyngloddiau'r Arolygwyr ym 1880.[5] Roedd y tir lle adeiladwyd y lofa yn eiddo i Crawshay Bailey a William Bailey, ond roedd y pwll glo yn eiddo i sawl cwmni gwahanol, gan gynnwys y National Steam Coal Company a Watts & Company, a roddodd ei enw i'r pentref. Er i Aberllechau ehangu i gyflawni gofynion gweithio ei lofa, ni ehangodd erioed ar yr un gyfradd ag ardaloedd eraill.

Roedd gan y pentref ei eglwys ei hun, wedi'i chysegru i Sant Thomas, a adeiladwyd ym 1896, ysgolion, capeli a thafarndai, ond roedd nifer tai preifaty trigolion yn llawer is nag yn y rhan fwyaf o bentrefi yng Nghymoedd De Cymru.

Dioddefodd Aberllechau ddau drychineb mwyngloddio ym Mhwll Glo 'r National.

Trychineb Glofa'r National, 1887

[golygu | golygu cod]

Roedd y trychineb cyntaf yng nglofa'r National ar 18 Chwefror 1887, pan oedd y pentref yn dal i gael ei adnabod fel 'Cwtch'. Digwyddodd y ddamwain rhwng y sifft dydd a'r sifft nos, ac mae'n debyg i hyn achub llawer o fywydau gan nad oedd 200 o ddynion wedi disgyn i'r pwll glo pan ddigwyddodd y ddamwain. Roedd y ffrwydrad mor bwerus nes iddo ddifrodi'r offer weindio a olygai nad oed posib achub y dynion am sawl awr. Unwaith y llwyddodd yr achubwyr i ddisgyn i lawr i'r dyfnderoedd, fe lwyddon nhw i ddod â 38 o ddynion i'r wyneb, gyda 29 ohonynt heb eu hanafu.Cyfanswm y meirw oedd tri-deg naw o ddynion a bechgyn, gyda chyfanswm o 6 wedi'u hanafu.Daeth rheithgor y cwest i'r casgliad, yn ei adroddiad i Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan, F. A. Bosanquet, mai cap ffrwydrol yn cael ei danio mewn ardal lle'r oedd nwy fflamadwy wedi cronni oedd achos y trychineb.

Trychineb Glofa'r National, 1905

[golygu | golygu cod]

Ar 11 Gorffennaf 1905, dim ond pedwar mis ar ôl trychineb Glofa Cambrian yng Nghwm Clydach, arweiniodd ffrwydrad ym Mhwll Glo Cenedlaethol Aberllechau at farwolaeth 121 o ddynion a bechgyn. Dim ond un o'r bobl a achubwyd o'r pwll glo y tro hwn, sef Matthew Davies yr unig oroeswr. Cynhaliwyd yr adroddiad i achos y trychineb gan Arolygwr y Mwyngloddiau, a ddaeth i'r casgliad bod y ffrwydrad wedi'i achosi gan ddefnydd anghyfreithlon o ddeunydd ffrwydro o dan y ddaear. Ychydig cyn i'r ffrwydrad ddigwydd, roedd y prif suddowr wedi gofyn am gebl ffrwydro a batri i wefru'r ergyd. Roedd y rheolwr, Mr. Meredith, wedi mynd i mewn i'r pwll glo chwarter awr cyn y ffrwydrad ac roedd ef ymhlith y rhai a laddwyd.

Ar ddiwrnod yr angladd, roedd y strydoedd wedi'u leinio gan filoedd o alarwyr ac adroddwyd bod y gorymdaith angladd dros bedair milltir (6 km) o hyd.

Chwaraeon a hamdden

[golygu | golygu cod]

Mae Aberllechau yn gartref i Glwb rygbi undeb Aberllechau, sydd â dros gan mlynedd o hanes.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Enwau Cymru
  2. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 18 Hydref 2024
  3. estyn.gov.wales; www.estyn.gov.wales Archifwyd 2020-07-14 yn y Peiriant Wayback adalwyd 14 Gorffennaf 2020.
  4. Davis, Paul R. Historic Rhondda, An Archaeological and Topographical Survey 8000 BC - AD 1850, Hackman: Ynyshir (1989) ISBN 0-9508556-3-4
  5. Rhondda Collieries, Volume 1, Number 4 in the Coalfield Series; John Cornwell. D.Brown and Sons Ltd, Cowbridge (1987) pg. 67 ISBN 0-905928-82-2