Ynys-y-bwl

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ynysybŵl)
Ynys-y-bwl
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnysybŵl a Choed-y-cwm Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.64°N 3.37°W Edit this on Wikidata
Cod OSST054949 Edit this on Wikidata
Cod postCF37 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auVikki Howells (Llafur)
AS/auBeth Winter (Llafur)
Map

Pentref mawr yng nghymuned Ynysybŵl a Choed-y-cwm ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf yw Ynys-y-bwl,[1] weithiau Ynysybŵl.[2] Saif tua 20 milltir i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caerdydd, bedair milltir i'r gogledd o Bontypridd a 10 milltir i'r de o Ferthyr Tudful. Mae Nant Clydach yn llifo heibio iddo.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Beth Winter (Llafur).[4]

Hanes[golygu | golygu cod]

Cofnodir yr enw yn y ffurf Seisnigaidd "Ynys y Bool" mewn dogfen Saesneg yn 1738. Gair Cymraeg ydy "bŵl" sy'n golygu "powlen" - sydd mae'n bosib yn cyfeirio at siâp crwn y dyffryn.

Hyd y 1880au, roedd Ynys-y-bŵl yn ardal amaethyddol. Agorwyd Glofa Lady Winsor yn 1886, a dechreuodd y pentref dyfu o'i hamgylch. Caewyd y lofa yma yn 1988.

Chwaraeon a diwylliant[golygu | golygu cod]

Ceir côr a chlwb rygbi yma.

Cynhelir Ras Nos Galan yma bob blwyddyn, i goffáu Guto Nyth Brân.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 4 Mehefin 2023
  2. British Place Names; adalwyd 4 Mehefin 2023
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.