Neidio i'r cynnwys

Bwrdeistref sirol

Oddi ar Wicipedia
Bwrdeistref sirol
Mathendid gweinyddol y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1889 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0206xp edit this on wikidata

Enw ar ffurf o ardal awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig yw bwrdeistref sirol. Erbyn heddiw, dim ond yng Nghymru maent yn bodoli.

Wrth greu cynghorau sir ym 1889, dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888, crëwyd hefyd y fwrdeistrefi sirol ar gyfer y dinasoedd mawr oedd eisoes gyda chorfforaeth i redeg prif swyddogaethau awdurdod lleol.

Effaith statws bwrdeistref sirol oedd bod yr awdurdod hwnnw â'r swyddogaeth o redeg rhai o brif wasanaethau llywodraeth leol, megis addysg, a fuasai fel arall yn gyfrifoldeb i'r cyngor sir. Roedd bwrdeistrefi a dosbarthau eraill o fewn y sir yn bod, ond heb gynnal yr un swyddogaethau.

Dros gyfnodau o ad-drefnu llywodraeth leol ym Mhrydain, daeth ffurfiau eraill o awdurdod aml-bwrpas i fod, a gyda Deddf Llywodraeth Leol 1972 diddymwyd y ffurf 'bwrdeistref sirol' yn gyfangwbl ym Mhrydain.

Adferiad yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Ym 1996, dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, fe ail-drefnwyd awdurdodau lleol Cymru ar ffurf awdurdodau unedol, gan adfer y fwrdeistref sirol. Dan y ddeddf, roedd pob ardal llywodraeth leol (sef y prif ardaloedd) un ai yn sir neu yn fwrdeistref sirol, gyda'r Cyngor felly yn Gyngor Sir neu yn Gyngor Bwrdeistref Sirol. Nid oes gwahaniaeth o gwbl yn swyddogaethau'r cynghorau hyn. Yr unig wahaniaeth ymarferol yw bod cadeirydd bwrdeistref sirol yn defnyddio'r teitl "Maer".

I bob pwrpas mae'r teitl "bwrdeistref sirol" yn cael ei anwybyddu ar lafar ac yn wir yn y cyfryngau yn gyffredinol, yn cynnwys BBC Cymru, ac mae'n arferol cyfeirio atynt fel "siroedd" yn unig, e.e. "Sir Conwy" yn lle Bwrdeistref Sirol Conwy ac "yn y sir" yn lle "yn y fwrdeistref sirol".

Bwrdeistrefi sirol Cymru

[golygu | golygu cod]

Mae gweddill prif gynghorau lleol Cymru yn gynghorau sir heblaw Gwynedd - a fodolodd am rai munudau yn unig fel "Sir Gaernarfon a Meirionnydd", yn unol â geiriad Deddf 1994, cyn i gyfarfod cyntaf y cyngor newydd newid yr enw i "Gwynedd" - nad yw yn sir nag yn fwrdeistref sirol yn ôl y cyngor ei hun ond sy'n cyfrif fel un o siroedd Cymru er hynny.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]