Trealaw

Oddi ar Wicipedia
Trealaw
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,040 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd287.11 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6236°N 3.4511°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001040 Edit this on Wikidata
Cod OSSS996926 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElizabeth (Buffy) Williams (Llafur)
AS/auChris Bryant (Llafur)
Map
Am y gymuned ar Ynys Môn, gweler Tref Alaw.
Trealaw o Ddinas Rhondda

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf, de Cymru, yw Trealaw. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2011 yn 4,040.

Saif Trealaw yr ochr draw i afon Rhondda Fawr o Donypandy.

Hanes[golygu | golygu cod]

Daw enw Trealaw o "Alaw Goch", sef enw barddol Dafydd Williams, tad y barnwr Gwilym Williams a sefydlodd y pentref, ynghyd â Threwiliam pentref i'r de o Drealaw. Cofir Gwilym Williams gan enw neuadd yn y pentref, sef y 'Judge Gwilym Williams Memorial Hall', yn ogystal â Heol Ynyscynon a enwyd ar ôl sedd y teulu yn Ynsycynon ger Aberdâr yng Nghwm Cynon.

Trafnidiaeth[golygu | golygu cod]

Gwasanaethir Trealaw gan dair gorsaf reilffordd, gan gynnwys Dinas, Tonypandy a Llwynypïa, ar linell Trafnidiaeth Cymru rhwng Caerdydd Canolog a Threherbert.

Gwasanaethir y pentref gan Stagecoach llwybr bysiau 120 rhwng Blaenrhondda a Phontypridd/Caerffili, a Veolia Transport llwybr bysiau 175 rhwng Cwm Clydach/Tonypandy a'r Porth.

Addysg[golygu | golygu cod]

Mae dwy ysgol gynradd Saesneg yn y pentref, sef Ysgol Gynradd Trealaw ac Ysgol Gynradd Alaw. Nid oes ysgol gynradd Gymraeg yn Nhrealaw, ac mae'r plant sy'n derbyn addysg Gymraeg ar hyn o bryd yn mynd i Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn y Porth neu Ysgol Gynradd Bodringallt yn Ystrad.

Ar ôl gadael Ysgol Gynradd Trealaw ac Ysgol Gynradd Alaw, mae'r rhan fwyaf o'r plant yn cael eu haddysg yn Ysgol Gymunedol Sir y Porth, neu Ysgol Cymunedol Tonypandy.

Mae mwyafrif y plant o'r ysgolion cynradd Cymraeg yn mynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhondda i dderbyn eu haddysg uwchradd er bod rhywrai yn dewis Ysgol Gyfun Treorci sydd a rhywfaint o darpariaeth addysg Gymraeg.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trealaw (pob oed) (4,040)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trealaw) (334)
  
8.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trealaw) (3672)
  
90.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Trealaw) (741)
  
43.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]


Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.