James Kitchener Davies
Gwedd
James Kitchener Davies | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mehefin 1902 Sir Aberteifi |
Bu farw | 25 Awst 1952 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd a dramodydd yn y Gymraeg oedd James Kitchener Davies neu Kitchener Davies (16 Mehefin 1902 – 25 Awst 1952), a aned ger Cors Caron, Ceredigion. Ei ferch yw'r awdures Manon Rhys.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cafodd ei addysg yn Nhregaron a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, cyn symud i dreulio gweddill ei oes yn Y Rhondda. Roedd yn aelod selog o Blaid Cymru yn y cwm ac yn gyfaill i'r llenor Rhydwen Williams.
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Seilir enw Kitchener Davies fel dramodydd ar ddwy ddrama arbennig, sef Cwm Glo a Meini Gwagedd.[1] Mae ei bryddest Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu, a ddarlledwyd gan y bardd ar ei wely angau, yn cael ei chydnabod yn gyffredinol fel un o'r cerddi grymusaf yn llenyddiaeth Gymraeg yr 20g.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- J. Kitchener Davies, ‘Cenedlaetholdeb Cymru a Chomiwnyddiaeth’, Heddiw, cyfrol 2, rhif 3 (Ebrill 1937), tt. 84–90.
- J. Kitchener Davies, Cwm Glo (Lerpwl, 1935).
- J. Kitchener Davies, ‘Drama Fawr Gymraeg’, Ford Gron, cyfrol 4, rhif 8 (Mehefin 1934), tt. 176 a 192.
- J. Kitchener Davies, ‘Yr Eisteddfod a’r Ddrama’, Heddiw, cyfrol 5, rhif 4 (Awst 1939), tt. 170–179.
- J. Kitchener Davies, (gol.) Mair I. Davies, Gwaith Kitchener Davies (Llandysul, 1980).
- Jack Jones (trosiad i’r Gymraeg), J. Kitchener Davies, Hen Wlad Fy Nhadau (Caerdydd, 2002).
- J. Kitchener Davies, ‘Lle Cymru yng Nghynllwynion Lloegr’, Heddiw, cyfrol 1, rhif 3 (Hydref 1936), tt. 90–92.
- J. Kitchener Davies, Meini Gwagedd (Caerdydd, 1944).
- J. Kitchener Davies, Susanna (Dinbych, 1938).
- J. Kitchener Davies, Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu (Dinbych, 1953).[2]
- J. Kitchener Davies, ‘Adfyw’, Y Cardi, rhif 3 (Awst 1968), tt. 14–18.
- James Kitchener Davies: Detholiad o'i Waith (gol. Manon Rhys ar y cyd ag M. Wynn Thomas) 2002
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Manon Rhys, ‘Atgyfodi Cwm Glo, Kitchener Davies’, Cwm Rhondda (Cyfres y Cymoedd), (Llandysul, 1995), tt. 276–300.
- M. Wynn Thomas, ‘Yr Awdur yn Destun’, Traethodydd, cyfrol 160 (2005), tt. 77–94.
- Manon Rhys, ‘Coffáu Kitch’, Taliesin, cyfrol 116 (Eisteddfod 2002), tt. 38–47.
- Alan Llwyd, ‘Cofio “Cwm Glo”, Cofio Kitch’, Barddas, rhif 270 (Rhagfyr/Ionawr, 2002/2003), tt. 6–11.
- Siôn Aled, ‘James Kitchener Davies’, yn (gol.) Robert Rhys, Y Patrwm Amryliw (Cyfrol 1), tt. 165–172.
- M. Wynn Thomas, James Kitchener Davies (Caerdydd, 2002).
- M. Wynn Thomas, ‘Keeping Rhondda for Wales: the case of J. Kitchener Davies’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion/Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1999), Cyfrol 6 (Llundain, 1999), tt. 119–134.
- Kathryn Jenkins, ‘“O Lwynypïod i Lwynypia”: hunangofiant James Kitchener Davies’, yn (gol.) J. E. Caerwyn Williams, Ysgrifau Beirniadol, XIX (Dinbych, 1993), tt. 310–22.
- Ioan M. Williams, Llên y Llenor: Kitchener Davies (Caernarfon, 1984).
- A. O. Chater, ‘Perthi’r Llain’, Naturiaethwr, 14 (Gorffennaf 1985), tt. 2–15.
- Rhian Reynolds, ‘Poetry for the Air’, Welsh Writing in English, 7 (2001–2002), tt. 78–105.
- Gwen Angharad Jones, ‘Rhydypandy a Thonypandy’, Barn, rhif 477, (Hydref 2002), tt. 39–41.
- Wynne Samuel, ‘Kitchener Davies ar y bocs sebon’, Y Ddraig Goch (Hydref/Tachwedd 1980), t. 7.
- Rhydwen Williams, ‘Y Ffynhonnau’, yn Rhondda Poems (Llanydybïe, 1987), tt. 34–45.
- Gwenallt, ‘Cwm Rhondda’, yn Y Coed (Landysul, 1969), t. 24.
- Saunders Lewis, ‘Pryddest Kitchener Davies’, Baner ac Amerau Cymru (21 Hydref, 1953), t. 7.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Davies, J. Kitchener (1944). . Caerdydd: Seiri Drama.
- ↑ Davies, James Kitchener (1953). Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu. Dinbych: Gwasg Gee.
- Gwyddoniadur Cymru, t. 276.
- Bywgraffiadur ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod J. Kitchener Davies ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.