Prifysgol Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Prifysgol Cymru, Aberystwyth)
Jump to navigation Jump to search
Aberystwyth
Old College Main Entrance.jpg
Prif fynedfa'r Hen Goleg
Arwyddair Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth
Sefydlwyd 1872
Math Cyhoeddus
Canghellor Syr Emyr Jones Parry
Staff 5,230
Myfyrwyr 12,245[1]
Israddedigion 8,260[1]
Ôlraddedigion 2,500[1]
Lleoliad Aberystwyth, Baner Cymru Cymru
Tadogaethau Prifysgol Cymru
AMBA
ACU
University Alliance
Universities UK
HiPACT
SEDA
HEA
Logo Prifysgol Aberystwyth.png
Gwefan http://www.aber.ac.uk/cy/

Prifysgol ymchwil cyhoeddus yn Aberystwyth, Ceredigion yw Prifysgol Aberystwyth. Hyd fis Medi 2007 ei henw swyddogol oedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.[2] Yn 1872 yr agorwyd sefydliad prifysgol cyntaf Cymru — 'y Coleg ger y Lli' a'r prifathro cyntaf oedd Thomas Charles Edwards. Ers hynny tyfodd nifer y myfyrwyr o 26 i dros 7,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys bron i 2,000 o Gymru, a thros 1,100 o uwchraddedigion. Mae yno ddeunaw adran academaidd, sy'n dysgu ystod eang o bynciau. Yn 2016 fe'i dynodwyd y brifysgol mwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru ac ymysg y 10 saffa yn y DU (yn ôl y Complete University Guide 2016).

Mae ymchwil yn rhan greiddiol o genhadaeth a gwaith y Brifysgol. Fe'i cefnogir gan Strategaeth Ymchwil er mwyn sicrhau y gall y Brifysgol barhau i gynhyrchu gwaith o safon uchel ac ymateb i amgylchedd sy'n newid drwy'r amser, mewn perthynas ag ymchwil a chyllido ymchwil.[3]

Ceir chwech Athrofa oddi fewn i Brifysgol Aberystwyth:[4]

  • Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
  • Athrofa Datblygu Proffesiynol
  • Athrofa Busnes a’r Gyfraith
  • Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth & Seicoleg
  • Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol
  • Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg

a deunaw o Adrannau academaidd gan gynnwys Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yr Adran Wleidyddiaeth Rhyngwladol (yr adran hynnaf o'i fath yn y byd) a'r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylghcheddol a Gwledig sy'n adnabyddus yn fyd-eang am ei ymchwil.[5]

Mae modd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ystod eang iawn o feysydd bellach ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda dros 300 o gyrsiau bellach ar gael ble gellir astudio yn rhannol neu yn gyfan gwbl yn Gymraeg.[6]

Safon[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2016, o ran bodlonrwydd myfyrwyr, roedd Prifysgol Aberystwyth yn 4ydd ar restr 'Ymchwil Myfyrwyr Cenedlaethol' o holl brifysgolion gwledydd Prydain, a 1af yng Nghymru, gyda 92% o'r myfyrwyr yn mynegi eu boddhad llwyr.[7] 4ydd yn y DU a 1af yng Nghymru , Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016

O ran yr addysg a'r addysgu, roedd yn 79fed yn Rhestr Prifysgolion Da y The Times/Sunday Times a 93ydd y flwyddyn cyn hynny; yng Nghymru, roedd y drydedd brifysgol gorau.[8][9] Ceir rhestr 'Cyflogwyr o Fyd Busnes, TG a Pherianneg' hefyd, a dyfarnwyd Aberystwyth yn gydradd 49fed o ran y potensial i fyfyriw gael gwaith wedi cwbwlhau ei radd; gweler adroddiad Times Higher Education.[10] Yn y Times Higher Education World University Rankings 2016-17, roedd o fewn y 40 prifysgol gorau yn y DU.[11]

Yn 2016 roedd 92% o'i graddedigion mewn swyddi neu Addysg bellach o fewn 6 mis o raddio ac roedd 95% o ymchwil y Brifysgol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu’n uwch.

Y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth[golygu | golygu cod y dudalen]

Noda Hefin Jones, yn ei astudiaeth o'r Ymerodraeth Brydeinig: "wrth sefydlu prifysgol gyntaf Cymru yn Aberystwyth yn 1872, nid oedd yr Anghydffurfwyr yn cynnig dim yn Gymraeg. Saesneg oedd popeth. Cafodd hyd yn oed y Gymraeg, pan gafodd ei chyflwyno fel pwnc ymhen hir a hwyr, ei dysgu drwy'r Saesneg."[12]

Ym mlwyddyn academaidd 2014-2015, roedd tua 1068 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn gallu siarad Cymraeg. Roedd hyn yn ostyngiad o tua 79 o fyfyrwyr o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.[13]

Pobl nodedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Llywyddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Prifathrawon ac Is-Ganhellorion[golygu | golygu cod y dudalen]

Staff nodedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]