Noel Lloyd

Oddi ar Wicipedia
Noel Lloyd
GanwydNoel Glynne Lloyd Edit this on Wikidata
26 Rhagfyr 1946 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mehefin 2019 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethis-ganghellor, is-ganghellor, mathemategydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE, Gorsedd y Beirdd, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Academydd oedd Athro Noel Glynne Lloyd CBE (26 Rhagfyr 19467 Mehefin 2019)[1] a fu'n Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth o 2004 tan ei ymddeoliad yn 2011. Cyn hynny, bu'n Bennaeth yr Adran Fathemateg, yn Ddeon Gwyddoniaeth, yn Is-Brifathro ac o 1999 hyd 2004, yn Gofrestrydd ac yn Ysgrifennydd y Brifysgol. Bu'r Athro Lloyd yn un o aelodau annibynnol y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (y 'Comisiwn Silk') - a gyflwynodd ei adroddiadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2012 ac yn 2014.[2]

Daeth yn Gomisiynydd Penodiadau Barnwrol yn 2012.[3] Roedd yn aelod o fwrdd Jisc o 2012 i 2014 a chadeirydd Masnach Deg, Cymru o 2011 hyd 2017.[4] Bu hefyd yn gadeirydd HPC Cymru (menter gydweithredol rhwng holl brifysgolion Cymru).

Rhwng 2008 a 2011, bu'r Athro Lloyd yn gadeirydd Addysg Uwch Cymru ('Prifysgolion Cymru' bellach) ac yn un o Is-lywyddion Prifysgolion DU (Universities UK). Gwasanaethodd ar fyrddau nifer o gyrff eraill, traws-DU. Graddiodd mewn Mathemateg o Brifysgol Caergrawnt a chwblhaodd ei ddoethuriaeth yno; bu'n Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Sant Ioan. Roedd ganddo hefyd ddiploma Coleg Cerdd y Drindod, Llundain.

Roedd yn flaenor yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth, a bu'n ysgrifennydd yr eglwys o 1989 hyd 2004. Roedd hefyd yn gadeirydd Adran Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth:

“Mae Noel wedi rhoi gwasanaeth hir a neilltuol i Brifysgol Aberystwyth. Mae’r Cyngor wedi talu teyrnged iddo am ei wasanaeth fel Cofrestrydd ac Ysgrifennydd ac yna fel Is-Ganghellor.”

Mathemategydd[golygu | golygu cod]

Ei ddiddordebau ymchwil oedd Systemau Aflinol, a chyhoeddodd nifer sylweddol o bapurau ar Hafaliadau Differol Aflinol. Bu'n Athro Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth o 2011 hyd 2016 cyn dod yn Athro Emeritws wedi ymddeol. Bu hefyd yn olygydd y Journal of the London Mathematical Society o 1983 tan 1988.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Dyfarnwyd CBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2010 am ei wasanaeth i Addysg Uwch yng Nghymru. Roedd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac fe'i urddwyd yn Aelod Anrhydeddus o'r Orsedd yn 2012.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Yn dilyn ei farwolaeth yn 72 mlwydd oed dywedodd dirprwy ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Gwerfyl Pierce Jones wrth BBC Cymru Fyw:

"Mae colli Noel Lloyd yn golled enfawr. Roedd yn ysgolhaig disglair, yn Athro Mathemateg a ddaeth maes o law yn is-ganghellor Aberystwyth."

Roedd yn gadael gweddw, Dilys, dau o blant, Carys a Hywel, a dwy wyres.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Yr Athro Noel Lloyd wedi marw yn 72 oed , BBC Cymru Fyw, 8 Mehefin 2019.
  2. Gwefan Prifysgol Aberystwyth; adalwyd 29 Awst 2017.
  3. Gwefan Saesneg Judicial Appointments Commission ; Archifwyd 2017-08-31 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 29 Awst 2017.
  4. fairtradewales.com;[dolen marw] adalwyd 29 Awst 2017.