Llyfrgell Thomas Parry

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyfrgell Thomas Parry
Thomas Parry Library, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth - geograph.org.uk - 558838.jpg
Mathllyfrgell academaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlThomas Parry Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogolMehefin 1970 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAberystwyth University Library Edit this on Wikidata
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr68.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.4103°N 4.0542°W Edit this on Wikidata
Cod postSY23 3AS Edit this on Wikidata
Rheolir ganPrifysgol Aberystwyth Edit this on Wikidata

Agorwyd Llyfrgell Thomas Parry ym Mehefin 1970 i wasanaethu Coleg Llyfrgellwyr Cymru. Y pensaer oedd G. R. Bruce; yr adeiladydd oedd G. M. Jenkins a’i Feibion, Tregaron, a’r gost oedd £135.000. Fe'i lleolwyd ar Gampws Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth, yn Aberystwyth, Ceredigion.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan ddaeth Coleg Llyfrgellwyr Cymru yn rhan o Brifysgol Cymru Aberystwyth ym 1989, o dan yr enw ‘Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth’, daeth y Llyfrgell yn rhan o wasanaethau Llyfrgell y Brifysgol. Ym 1995 unwyd y Llyfrgell â’r Uned Gyfrifiadur a’r Adran Glyweled i ffurfio Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol.

Yn Awst 1995 ailenwyd y llyfrgell yn Llyfrgell Thomas Parry ar ôl yr ysgolhaig a’r llenor a chyn Lyfrgellydd Cenedlaethol, Syr Thomas Parry.

Ym 1966 unodd Coleg Amaethyddol Cymru, sefydliad annibynnol arall oedd ar Gampws Llanbadarn, â’r Brifysgol i ffurfio Sefydliad Gwyddorau Gwledig Cymru. Unodd llyfrgell Coleg Amaethyddol Cymru (a oedd hefyd yn llyfrgell Coleg Ceredigion) gyda Llyfrgell Thomas Parry a ehangwyd a’i hail gynllunio’n sylweddol gyda chynnydd helaeth mewn stoc, staff a darllenwyr.

Yn fwy diweddar, gwasanaethwyd anghenion dysgu ac ymchwil yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, a Choleg Ceredigion gan Lyfrgell Thomas Parry.

Caewyd y llyfrgell ym mis Awst 2018.[1]

Defnyddiwyd yr adeilad fel canolfan frechu yn ystod y pandemig COVID-19.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Llyfrgell Thomas Parry - Haf 2018". Prifysgol Aberystwyth.
  2. "Gwahodd pobl rhwng 75 a 79 oed i dderbyn eu brechiad COVID mewn canolfan frechu dorfol". Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 22 Ionawr 2021.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]