Neuadd Pantycelyn
| Math | neuadd breswyl |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Pantycelyn |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Prifysgol Aberystwyth |
| Lleoliad | Aberystwyth |
| Sir | Aberystwyth |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 50.5 metr |
| Cyfesurynnau | 52.416475°N 4.069411°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Neuadd a neilltuwyd i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Neuadd Pantycelyn. Mae wedi ei leoli ar Ffordd Penglais yn nhref Aberystwyth. Yma mae cartref Côr Aelwyd Pantycelyn a hefyd swyddfa UMCA. Fe'i hagorwyd ar ddechrau'r 1950au ond fe'i newidiwyd i fod yn neuadd Gymraeg ym 1974.
Yn 2008 trafodwyd y posibilrwydd o gau'r neuadd fel rhan o ymgynghoriad ar ddyfodol llety myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. [1]
Ar Ddydd Sul y 14eg o Fedi yn 2015, meddiannodd myfyrwyr y Neuadd o flaen cyfarfod cyngor y Brifysgol i wneud penderfyniad ar sicrhau ai peidio dyfodol y sefydliad ar 22ain o Fehefin. [2] Cynhaliwyd deiseb i gadw'r neuaddau ar agor ac, erbyn yr 22ain o Fedi, bu dros 2,700 o enwau arni. O ganlyniad i hyn, pleidleisiodd cyngor y brifysgol i ailagor Pantycelyn fel neuadd breswyl o fewn pedair blynedd yn dilyn gwaith adnewyddu.[3]
Penderfynodd Cyngor Prifysgol Aberystwyth ar y seithfed ar hugain o Dachwedd 2017 i fuddsoddi £12 miliwn i adnewyddu'r neuadd[4]. Gwelwyd hwn fel cam mawr yn yr ymgyrch i sicrhau bod y Neuadd yn ail Agor erbyn Medi 2019 gyda Llywydd UMCA Gwion Llwyd yn "falch iawn o’r penderfyniad"[5] Fe wnaeth y gwaith o ddechrau adnewyddu'r adeilad dechrau ar ddechrau Chwefror 2018.
Cyhoeddodd y Brifysgol bod angen oedi ail agor y Neuadd i'r flwyddyn 2020 oherwydd nad oedd digon o waith wedi ei wneud o flaen llaw. Er hyn roedd y Brifysgol yn nodi ei fod yn ymroddedig i'w ailagor blwyddyn yn hwyrach gyda chyllid yn ei le gyda chymorth £5 miliwn y Llywodraeth.[6] Agorwyd ym mis Medi 2020 gyda'r Gweinidog Addysg ar y pryd Kirsty Williams yn bresennol yn yr agoriad swyddogol.[7] Cafodd £16.5m ei wario i'w adnewyddu gyda phob 198 o ystafelloedd wely yn cynnwys ystafell ymolchi integredig.[7]
Traddodiad Pantycelyn
[golygu | golygu cod]Mae'r neuadd yn cael ei weld fel pwerdy o genedlaetholdeb gyda sawl gwleidydd ac ymgyrchwyr Iaith wedi galw'r neuadd yn gartref am gyfnod. Mewn erthygl gan yr athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth mae'r Neuadd drwy fod yn lleoliad i gymuned Gymraeg yn creu'r lleoliad perffaith i greu ac atgyfnerthu teimladau cenedlaetholdeb Cymreig.[8]
Yn ddiwylliannol ceir brith o draddodiadau gyda sawl bardd yn dysgu ei grefft yno. Mae'r cysylltiad Pantycelyn gyda cherddoriaeth Cymraeg yn amlwg heddiw gyda sawl band nodedig yn dod i fodolaeth yn y Neuadd megis Yr Ods[9]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Dathlu pen-blwydd neuadd breswyl Stori Neuadd Panycelyn yn 30 oed oddi ar wefan BBC
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pantycelyn: Oes yn dod i ben? BBC Arlein. 09-12-2008. Adalwyd ar 26-09-2010
- ↑ Cymdeithas yr Iaith: Meddiannu Pantycelyn BBC Cymru Fyw. 14-06-2015. Adalwyd ar 17-06-2015.
- ↑ Deiseb Pantycelyn Archifwyd 2015-06-22 yn y Peiriant Wayback Adalwyd ar 23-06-2014
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ "Datganiad Neuadd Pantycelyn - Prifysgol Aberystwyth". www.aber.ac.uk. Cyrchwyd 2018-09-13.
- ↑ 7.0 7.1 "'Cam pwysig iawn' wrth ailagor Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth". BBC Cymru Fyw. 2020-09-18. Cyrchwyd 2025-08-15.
- ↑ Jones, R.; Desforges, L. (2003-03-01). "Localities and the reproduction of Welsh nationalism". Political Geography 22 (3): 271–292. doi:10.1016/S0962-6298(02)00096-3. ISSN 0962-6298. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0962629802000963.
- ↑ Dafydd, Rhun. "Y Sin Gerddorol". Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
| |||||||||||||||||||||||||
