Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Enghraifft o'r canlynolundeb myfyrwyr, sefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1900 Edit this on Wikidata
SylfaenyddHerbert John Fleure Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolNational Union of Students Edit this on Wikidata
PencadlysAberystwyth Edit this on Wikidata
RhanbarthCeredigion Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.abersu.co.uk/ Edit this on Wikidata

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn aelod o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ac UCM Cymru. Dyma un o'r undebau hynaf a mwyaf gweithgar yn y DU a chynhaliwyd cynhadledd genedlaethol UCM cyntaf y DU yno. Mae ganddi rôl weithgar o hyd wrth gynrychioli buddiannau myfyrwyr yn Aberystwyth, yng Nghymru ac ar draws y DU. Mae'r ganolfan cymorth i fyfyrwyr yn cynnig gwasanaethau i bob myfyriwr ar faterion amrywiol gan gynnwys straen, iechyd rhywiol a mewnfudo. 

Yn ogystal ag ymgyrchu ac ethol myfyrwyr i'r swyddi er mwyn cefnogi'r boblogaeth gyfan o fyfyrwyr, mae hefyd yn cynnig gwasanaethau masnachol – gan gynnwys siop, mae'n cynnal amryw o ddigwyddiadau cymdeithasol a Starbucks, becws a siop pizza. Trosglwyddwyd y gwasanaethau masnachol hyn o ddwylo'r undeb draw i'r Brifysgol yn 2016. Serch hynny, mae'r undeb yn cefnogi amrywiaeth eang o glybiau chwaraeon a chymdeithasau a'i diben yw cynrychioli myfyrwyr Aberystwyth. 

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd rhagflaenydd yr Undeb, Cyngor Cynrychioli Myfyrwyr Aberystwyth, ym 1900 gan Herbert John Fleure, a ddaeth yn ddarlithydd ym maes botaneg, daeareg a sŵoleg yn y Brifysgol yn hwyrach.[1] Sefydlwyd y Cyngor mewn ystafell gyffredin yn yr Hen Goleg. Roedd aelodau'r Cyngor yn cael eu hethol yn ddemocrataidd, ac roeddent yn cyhoeddi'r papur newyddion i fyfyrwyr, sef The Dragon, neu The Courier erbyn heddiw. Yn 1966, am y tro cyntaf, roedd cynrychiolaeth o blith y myfyrwyr ar bwyllgorau'r coleg. Gwnaeth hyn gynyddu nifer y myfyrwyr oedd yn rhan o waith gweinyddu'r coleg.[2]

Yn 1923, prynwyd 10 Laura Place gan y coleg. Defnyddiwyd yr ystafelloedd yno i gofio am y myfyrwyr o Aberystwyth a fu farw yn ystod yr Rhyfel Byd Cyntaf, a daeth yn Undeb y Myfyrwyr newydd. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol ar 30 Hydref, 1923 gan dywysog Cymru ar y pryd, Edward. Fel rhan o waith y Brifysgol o ehangu, agorwyd rhan gyntaf adeilad newydd Undeb y Myfyrwyr yn 1970, ar safle presennol y Brifysgol ar neuadd Penglais.  Defnyddir adeilad Laura Place bellach fel ystafell gyfrifiaduron 24 awr. Ailenwyd yr undeb yn Urdd Myfyrwyr Aberystwyth yn 1972 ac yn 2012, daeth yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Gweithrediadau[golygu | golygu cod]

Swyddogion [golygu | golygu cod]

Mae gan yr undeb bum swyddog sabothol llawn amser, ac 13 swyddog rhan-amser. Caiff yr holl swyddogion eu hethol mewn etholiad traws-campws bob gwanwyn. 

Clybiau chwaraeon a chymdeithasau[golygu | golygu cod]

Ers 2016, ceir 56 o glybiau chwaraeon a thros 100 o gymdeithasau sydd wedi'u cofrestru gyda'r undeb.[3] Mae'r rhain yn amrywio o chwaraeon mwy traddodiadol megis rygbi, pêl-droed a hoci, i ffrisbi eithafol a marchogaeth. Gellir cael rhestr lawn o'r holl glybiau chwaraeon a chymdeithasau ar wefan yr undeb. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymuno â'r grwpiau hyn yn ystod y ffeiriau glas blynyddol a gynhelir yn wythnos gyntaf y tymor (ym mis Medi fel arfer). 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "National Library of Wales – Herbert John Fleure Papers". Archives Wales website. Archives Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2 Chwefror 2012.
  2. "University of Wales, Aberystwyth Guild of Students Archive". Archiveshub website. Archiveshub. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-23. Cyrchwyd 2 Chwefror 2012.
  3. "Guild 1/2 Year Report". Website of Aberystwyth Guild of Students. Aberystwyth Guild of Students. Cyrchwyd 2 Chwefror 2012.