Henry Austin Bruce

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Henry Austin Bruce
1stLordAberdare.jpg
Ganwyd 16 Ebrill 1815 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Chwefror 1895 Edit this on Wikidata (79 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd, Cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swydd Ysgrifennydd Cartref, Arglwydd Lywydd y Cyngor, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Plant Henry Bruce, ail farwn Aberdar, Charles Granville Bruce Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Fellow of the Royal Historical Society Edit this on Wikidata

Roedd Henry Austin Bruce, Barwn 1af Aberdâr GCB, PC, FRS (16 Ebrill, 1815 - 25 Chwefror, 1895) yn ddiwydiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol[1].[2][3]

Cefndir a theulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Henry Bruce yn Duffryn, Aberdâr yn fab i John Bruce, tirfeddiannwr a Sarah ei wraig, merch y Parchedig Hugh Williams Austin.

Enw teuluol gwreiddiol John Bruce oedd "Knight", ond mabwysiadodd yr enw "Bruce" sef enw teuluol ei fam, a ganddi hi yr etifeddodd ystâd y Duffryn.

O 1821 i 1827 bu'r teulu'n byw yn Saint-Omer, Ffrainc ac yno derbyniodd Henry ei addysg elfennol. Wedi dychwelyd i Gymru aeth yn ddisgybl i Ysgol Ramadeg Abertawe lle y bu'n astudio hyd 1832.

Priododd Henry Bruce Annabella, merch Richard Beadon yn 1846,[4] . Bu iddynt un mab a thair merch. Ar ôl ei marwolaeth ym mis Gorffennaf 1852[5] priododd Norah Creina Blanche, merch Syr William Napier, a bu iddynt saith o ferched a dau fab.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi ymadael a'r ysgol aeth Bruce i Lundain i weithio yn siambr gyfreithiol ei ewythr, yr Arglwydd Ustus Knight Bruce. Cafodd ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn ym 1837[6] ond yn fuan ar ôl iddo ddechrau ymarfer y gyfraith darganfuwyd glo o dan y Duffryn a thiroedd eraill yn Nyffryn Aberdâr a daeth hyn a chyfoeth mawr i'r teulu. Ymddiswyddodd o'r bar ym 1843 er mwyn canolbwyntio ar ystâd y teulu.

Ym 1846 cafodd ei ddewis yn ddirprwy Raglaw Sir Forgannwg[7]. Yn yr un flwyddyn daeth yn un o gyfarwyddwyr cwmni newydd Rheilffordd Dyffryn Nedd[8]

O 1847 i 1852 bu'n gweithio fel Ynad Cyflogedig Merthyr ac Aberdâr.

Ym 1882 daeth yn gadeirydd 'Cwmni Cenedlaethol Affrica', a ffurfiwyd gan Syr George Goldie. Derbyniodd y cwmni Siarter Brenhinol gyda'r enw 'Cwmni Brenhinol Niger', ym 1899 cafodd y cwmni ei wladoli a daeth ei diroedd yn brotectoriaeth Niger.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Bruce yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Fwrdeistref Merthyr Tudful ym 1852[9] fel olynydd i Syr John Josiah Guest wedi ei farwolaeth. Cafodd ei ailethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1857. Yn etholiad 1859 cafodd ei herio gan aelod arall o'r Blaid Ryddfrydol, C.M. Elderton, gan gadw ei sedd yn gyffyrddus efo 88% o'r bleidlais. Cafodd ei swydd gyntaf yn y Llywodraeth ym 1862 pan ddaeth yn Is-Ysgrifennydd Gwladol dros yn y Swyddfa Gartref[10]. Ym 1864 fe'i gwnaed yn Is-Lywydd Pwyllgor Addysg y Cyfrin Gyngor. Cafodd ei ailethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad cyffredinol 1865. Yn 1868 daeth Merthyr yn etholaeth dau aelod, ond methodd Bruce gipio'r un o'r ddwy sedd gan gael ei drechu gan Henry Richard a Richard Fothergill[11] Bu cynnydd anferthol yn yr etholfraint ar gyfer etholiad 1868 gyda llawer mwy o ddynion o'r dosbarth gweithiol yn cael bwrw pleidlais; bu cynnydd yn etholfraint Merthyr o 1,387 ym 1865 i 14,577 ym 1868; mae'n debyg bod y gweithwyr yn gweld Richards fel mwy o gynrychiolydd iddynt na Bruce, eu meistr yn y gwaith glo a haearn[12].

Cerflyn ger Brifysgol Caerdydd

Fis ar ôl etholiad cyffredinol 1868 bu farw Archibald Alexander Speirs, AS Rhyddfrydol Renfrewshire yn yr Alban a chafodd Bruce ei ethol fel olynydd iddo. Cafodd swydd yr Ysgrifennydd Cartref yng Nghabinet Llywodraeth Gladstone[13]. Un o'i orchestion yn ystod ei gyfnod yn y swydd oedd diwygio deddfau trwyddedu'r farchnad alcohol[14]; ef fu'n gyfrifol am Ddeddf Trwyddedu 1872 a rhoddodd y cyfrifoldeb am drwyddedu tafarnau i Lysoedd yr Ynadon, cyflwynodd gosbau llymach am gamymddwyn mewn tafarnau a chyfyngodd yr oriau gwerthu diodydd.

Ym 1873 cafodd wahoddiad gan Gladstone i dderbyn swydd Arglwydd Lywydd y Cyngor. O'i dderbyn bu'n rhaid iddo roi'r gorau i’w sedd yn Nhŷ'r Cyffredin ac ymuno a Thŷ'r Arglwyddi lle eisteddai fel 'Barwn Aberdâr, o'r Duffryn yn Sir Forgannwg'[15].

Gwasanaeth Cyhoeddus tu allan i'r Senedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd gan Arglwydd Aberdâr nifer o ddiddordebau y tu allan i feysydd busnes a gwleidyddiaeth. Roedd yn hynafiaethydd gan wasanaethu fel Llywydd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol o 1878-1891. Roedd yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol ac ym 1881 daeth yn llywydd y Gymdeithas.

Roedd ganddo ddiddordeb yn y gwyddorau ac ym 1876 etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol.

Arysgrif ar ei garreg fedd
Arysgrif ar ei garreg fedd:

Henry Austin Bruce
FIRST LORD ABERDARE
BORN AP 1818 DIED FEB 1895
Beddfaen Arglwydd Aberdâr
Y feddfaen, ar ffurf Croes Geltaidd
Beddfaen Arglwydd Aberdâr, Mynwent Aberffrwd, Aberpennar

Mae'n bosib mae cyfraniad mwyaf Arglwydd Aberdâr oedd ym maes addysg. Ym 1881 fe ddaeth yn Llywydd The Girls' Public Day School Company, cwmni oedd am sicrhau bod addysg o'r radd flaenaf ar gael i ferched. Gwasanaethodd fel Llywydd Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd[16]. a Choleg Hyfforddi Abertawe a phan sefydlwyd Prifysgol Cymru daeth yn Ganghellor cyntaf arni. Yn ogystal ag ymddiddori yng ngwaith sefydliadau aruchel megis prifysgolion fe fu hefyd am lawer flwyddyn yn un o lywodraethwyr Ysgol Gynradd Aberpennar.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Arglwydd Aberdâr o'r ffliw yn Llundain ar 25 Chwefror 1895 yn 79 mlwydd oed; olynwyd ef yn y farwniaeth gan Henry, ei unig fab o'i briodas gyntaf a chafodd ei gladdu ym Mynwent Aberffrwd Aberpennar.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. BRUCE, HENRY AUSTIN yn y Bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 4 Ionawr 2015
  2. Eminent Welshmen
  3. Matthew Cragoe, ‘Bruce, Henry Austin, first Baron Aberdare (1815–1895)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Jan 2008 adalwyd 12 Rhag 2015
  4. Erthygl ddideitl ar dud 3 o'r Cardiff and Merthyr Guardian; 10 Ionawr 1846 [2] adalwyd 4 Ion 2015
  5. Family Notices Cardiff and Merthyr Guardian, 31 Gorffennaf 1852 papuraunewyddcymru.llgc.org.uk; adalwyd 4 Ion 2015
  6. Glamorganshire yn Glamorgan, Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr—2 Rhagfyr 1837 papuraunewyddcymru.llgc.org.uk; adalwyd 4 Ion 2015
  7. GLAMORGANSHIRE Welshman—27 Mawrth 1846 [3] adalwyd 4 Ion 2015
  8. VALE OF NEATH RAILWAY Cardiff and Merthyr Guardian; 3 Hydref 1846 papuraunewyddcymru.llgc.org.uk; adalwyd 4 Ion 2015
  9. GLAMORGANSHIRE Welshman; 17 Rhagfyr 1852 papuraunewyddcymru.llgc.org.uk; adalwyd 4 Ion 2015
  10. MINISTERIAL APPOINTMENT Cardiff and Merthyr Guardian, Glamorgan, Monmouth 22 Tachwedd 1862 [4] adalwyd 4 Ion 2015
  11. MERTHYR TYDFIL ELECTION Cardiff and Merthyr Guardian, Glamorgan, Monmouth; 21 Tachwedd 1868 [5] adalwyd 4 Ion 2015
  12. THE RIGHT HON. H. A. BRUCE Cardiff Times 12 Rhagfyr 1868 [6] adalwyd 4 Ion 2015
  13. THE NEW MINISTRY [7]; adalwyd 4 Ion 2015
  14. THE GOVERNMENT AND THE LICENSING BILL Cardiff Times; 27 Ionawr 1872 [8]; adalwyd 4 Ion 2015
  15. MR BRUCE IN THE HOUSE OF LORDS Monmouthshire Merlin 15 Awst 1873 [9]; adalwyd 4 Ion 2015
  16. Y DIWEDDAR ARGLWYDD ABERDAR Celt 8 Mawrth 1895 [10] adalwyd 4 Ion 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Josiah Guest
Aelod Seneddol dros Bwrdeistref Merthyr Tudful
18521868
Olynydd:
Henry Richard
Richard Fothergill