Thomas Jones (1870-1955)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Thomas Jones (T. J.))
Thomas Jones
Ganwyd27 Medi 1870 Edit this on Wikidata
Rhymni Edit this on Wikidata
Bu farw15 Hydref 1955 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Lewis, Pengam Edit this on Wikidata
Galwedigaethaddysgwr, gwas sifil, gwleidydd Edit this on Wikidata
PlantEirene White, Tristan Lloyd Jones Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Jones.

Gwas sifil ac addysgydd Cymreig oedd Thomas (Tom) Jones, a elwid yn T.J. (27 Medi 1870 - 15 Hydref 1955). Gwasanaethodd fel Is-ysgrifennydd y Cabinet dan bedwar Prif Weinidog: Lloyd George, Andrew Bonar Law, Stanley Baldwin a Ramsay MacDonald. Disgrifiwyd ef fel 'Ysgrifennydd Gwladol Answyddogol Cymru' ganCydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1986) a galwodd yr hanesydd Gwyn Alf Williams ef yn eminence gris 10 Stryd Downing.

Ganed ef yn Rhymni ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Bu ganddo gysylltiad a llawer o achosion dyngarol a diwylliannol, gan gynnwys sefydlu'r cylchgrawn Welsh Outlook (A Monthly Journal of National Social Progress) yn 1914, Cyngor y Celfyddydau a Choleg Harlech. Ef oedd cadeirydd Gwasg Gregynog.

Tra yn Llundain, roedd yn aelod o'r Cliveden Set a bu'n cyfathrebu ar un adeg gydag Adolf Hitler.

Daeth ei ferch, Eirene White, yn Aelod Seneddol dros Sir y Fflint, a Gweinidog.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • A Theme with Variations (1933)
  • Rhymney Memories (1938)
  • Cerrig Milltir (1942)
  • Leeks and Daffodils (1942)
  • The Native Never Returns (1946)
  • Welsh Broth (1950)
  • Lloyd George (1951)
  • The Gregynog Press (1954)
  • A Diary with Letters 1931-1950 (1954)
  • Whitehall Diaries, cyf. I a II (1969)
  • Whitehall Diaries, cyf. III (1971)