Thomas Jones (1870-1955)
| Thomas Jones | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | 27 Medi 1870 Rhymni |
| Bu farw | 15 Hydref 1955 Llundain |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | addysgwr, gwas sifil, gwleidydd |
| Plant | Eirene White, Tristan Lloyd Jones |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Jones.
Gwas sifil ac addysgydd Cymreig oedd Thomas (Tom) Jones, a elwid yn T.J. (27 Medi 1870 - 15 Hydref 1955). Gwasanaethodd fel Is-ysgrifennydd y Cabinet dan bedwar Prif Weinidog: Lloyd George, Andrew Bonar Law, Stanley Baldwin a Ramsay MacDonald. Disgrifiwyd ef fel 'Ysgrifennydd Gwladol Answyddogol Cymru' gan Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1986) a galwodd yr hanesydd Gwyn Alf Williams ef yn eminence gris 10 Stryd Downing.
Ganed ef yn Rhymni nawr ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
Bu ganddo gysylltiad a llawer o achosion dyngarol a diwylliannol, gan gynnwys sefydlu'r cylchgrawn Welsh Outlook (A Monthly Journal of National Social Progress) yn 1914, Cyngor y Celfyddydau a Choleg Harlech. Ef oedd cadeirydd Gwasg Gregynog.
Tra yn Llundain, roedd yn aelod o'r Cliveden Set a bu'n cyfathrebu ar un adeg gydag Adolf Hitler.
Daeth ei ferch, Eirene White, yn Aelod Seneddol dros Sir y Fflint, a Gweinidog.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- A Theme with Variations (1933)
- Rhymney Memories (1938)
- Cerrig Milltir (1942)
- Leeks and Daffodils (1942)
- The Native Never Returns (1946)
- Welsh Broth (1950)
- Lloyd George (1951)
- The Gregynog Press (1954)
- A Diary with Letters 1931-1950 (1954)
- Whitehall Diaries, cyf. I a II (1969)
- Whitehall Diaries, cyf. III (1971)
