Welsh Outlook

Oddi ar Wicipedia
Welsh Outlook
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn, cylchgrawn Edit this on Wikidata
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiIonawr 1914 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1914 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
David Davies, Barwn 1af Davies a roddodd gefnogaeth ariannol i'r cylchgrawn

Cylchgrawn misol oedd The Welsh Outlook a gyhoeddwyd rhwng 1914 a 1933 yng Nghymru, yn mynegi safbwynt gwleidyddol ar ryddfrydiaeth flaengar a chenedlaetholdeb diwylliannol. Ei golygydd cyntaf oedd Thomas Jones ac ariannwyd y cyhoeddiad gan David Davies, Barwn Davies 1af. Digrifia'r Cylchgrawn ei hun fel, "a monthly journal of national social progress". Roedd yn cynnwys newyddion ac arsylwadau ac erthyglau ar wleidyddiaeth, y celfyddydau ac addysg, roedd yna adolygiadau o lyfrau a llythyron, ynghŷd ag ychydig farddoniaeth Gymraeg.[1]

Cennad[golygu | golygu cod]

Bwriad y cylchgrawn gan Jones oedd rhoi llwyfan i drafod yn feirniadol y newidiadau yng nghymdeithas Gymru y cyfnod, tra’n anelu at gynnydd cymdeithasol. Roedd y cyfranwyr a'r tîm golygyddol yn dod yn bennaf o Gaerdydd a De Cymru. Er ei fod yn ddylanwadol ymhlith yr elît llywodraethol yng Nghymru, dim ond 2,000 y llwyddodd i'w gwerthu, gan ostwng yn sylweddol yn y 1930au.[2]

Cafodd y teitl (heb y ‘The’ cychwynnol) ei adfywio gan David Hewitt yn 1965 pan lansiodd gylchgrawn newydd oedd â’r nod o “fod yn gatalydd ar gyfer trafodaeth gyhoeddus ledled y wlad.”[3] Daeth cyhoeddi’r cylchgrawn i ben ar ôl tri rhifyn misol.[4]

Mae’r cylchgrawn gwreiddiol yn bwysig i ddatblygiad cenedlaetholdeb Cymreig gan ei fod yn adlewyrchu symudiad oddi wrth hunaniaeth grefyddol ac ieithyddol ac yn ceisio diffinio rôl i’r Gymraeg a chenedlaetholdeb Cymreig yng nghyd-destun rhyngwladoliaeth a chymdeithas fodern, hyd yn oed os o safbwynt ceidwadol.[5] Mae’r cylchgrawn wedi’i ddigido gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein.

Welsh Outlook Press[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd The Welsh Outlook Press yng Nghaerdydd yn 1913 yn gyhoeddwr llwyr ymroddedig i hyrwyddo cynnydd cymdeithasol drwy agenda lled ryddfrydol. Fe’i grewyd o ganlyniad i waith Thomas Jones a David Davies. Cyhoeddodd gylchgrawn y Welsh Outlook a nifer o lyfrau yn trafod Cymru. Symudodd i’r Drenewydd yn 1922, a bu’n weithredol yno tan y 1940au.[1]

Cyfranwyr nodedig[golygu | golygu cod]

Ymysg cyfranwyr nodedig i'r cylchgrawn oedd lladmeryddion dros ddatganoli i Gymru a llenyddiaeth Cymru yn yr iaith Saesneg, megis:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "The Welsh Outlook". Gwefan Cylchgronau Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 18 Ionawr 2024.
  2. G. Jenkins, "The Welsh Outlook 1914-1933", National Library of Wales Journal, 24 iv (1986).
  3. K. O. Morgan, "New Outlook for a New Wales", Welsh Outlook, 1 (April 1965), p.3.
  4. K. O. Morgan, Rebirth of a Nation: Wales 1880-1980, New York: Oxford University Press & University of Wales Press, 1981, t.371.
  5. Oxford Companion to the Literature of Wales (1986), t. 632.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]