Edgar Leyshon Chappell

Oddi ar Wicipedia
Edgar Leyshon Chappell
Ganwyd8 Ebrill 1879 Edit this on Wikidata
Ystalyfera Edit this on Wikidata
Bu farw26 Awst 1949, 1949 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcymdeithasegydd, cynlluniwr trefol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Roedd Edgar Leyshon Chappell (8 Ebrill 187926 Awst 1949) yn arbenigo mewn cwestiynau cymdeithasol, yn arloesydd ad-drefnu pentrefi a threfi, ac yn awdur.[1]

Ganwyd ef ar 8 Ebrill 1879, yn Ystalyfera, yn fab i Alfred Chappell ac Ellen Watkins. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac yna bu'n brifathro ysgol Rhiw-fawr, Pontardawe am gyfnod. Amlygwyd ei ddiddordeb mewn materion cymdeithasol yn 1911, pan y cyhoeddwyd pamffledyn o'i waith, Gwalia's Homes, yn Ystalyfera.

Yn 1912 dechreuodd gynorthwyo'r Athro H. Stanley Jevons mewn gwaith ymchwil i faterion economaidd (gan mwyaf) - gwaith a olygai drafaelio a darlithio yn ne Cymru, ac ysgrifennu pamffledi ac erthyglau i'r wasg ar bynciau megis datblygiad pentrefi a threfi, gerddi, etc. Yn 1917 fe'i dewiswyd yn ysgrifennydd adran Gymreig comisiwn y Cabinet Rhyfel ar yr anesmwythder yn y byd diwydiannol; y flwyddyn ddilynol cafodd ei ddewis gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth i chwilio i mewn i gwestiwn cyflogau a thelerau gwaith gweithwyr ar y tir yn Ne Cymru. O 1918 hyd 1921 yr oedd yn arolygwr yn adran tai o dan y Weinyddiaeth Iechyd; yn 1921 fe'i gwnaethpwyd yn ysgrifennydd ymchwil daleithiol arbennig yn Ne Cymru a wneid gan yr un Weinyddiaeth.

Wedi iddo adael y Weinyddiaeth Iechyd bu Chappell yn ffurfio ac yn arolygu cwmnïau ynglŷn â datblygu tir, etc., yn Llundain a Chaerdydd - gw. rhestr o'r cwmnïau hyn yn Who's Who in Wales, 1937. Efe oedd un o sylfaenwyr (ac, am rai blynyddoedd, ysgrifennydd) y ‘Welsh Housing and Development Association’; golygodd gyfrolau 1916, 1917, a 1918 The Welsh Housing and Development Year Book. Yn ddiweddarach bu'n ddiwyd yn ei waith ar wahanol gynghorau - cyngor sir Morgannwg yn eu plith - a'u pwyllgorau. Fe'i dewiswyd gan y Cyngor Cyfrin yn un o'i gynrychiolwyr ar Lys Llywodraethwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru; cafodd radd M.A. (‘er anrhydedd’) gan Brifysgol Cymru yn 1948. Ar hyd y blynyddoedd bu'n ysgrifennu ysgrifau, pamffledi, a llyfrau mwy; bu hefyd am gyfnod yn golygu'r Welsh Outlook. Dyma deitlau rhai o'i weithiau - Pithead and Factory Baths (gyda J. A. Lovat-Fraser ), 1920; The Housing Problem in Wales, 1920; History of the Port of Cardiff, 1939; Historic Melingriffith, 1940; The Government of Wales, 1943; Wake up, Wales … 1943; Cardiff's Civic Centre, a Historical Guide, 1946.

Pr. Alice, merch Caleb Thomas, Ystalyfera, a bu iddynt fab. Bu farw yng Nghaerdydd 26 Awst 1949.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Who's who in Wales, 1937;
  • Western Mail, 27 Awst 1949.