Annie Foulkes

Oddi ar Wicipedia
Annie Foulkes
Ganwyd24 Mawrth 1877 Edit this on Wikidata
Llanberis Edit this on Wikidata
Bu farw12 Tachwedd 1962 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgolygydd Edit this on Wikidata
TadEdward Foulkes Edit this on Wikidata

Llenor o Gymraes a golygydd blodeugerdd oedd Annie Foulkes (24 Mawrth 187712 Tachwedd 1962). Fe'i ganed yn Llanberis, Gwynedd, yn ferch i Edward Foulkes (1850-1917) a oedd yn swyddog yn Chwarel Dinorwig. Roedd o deulu diwylliedig gyda'i thad yn awdur nifer o ysgrifau ar lenorion Saesneg, yn enwedig mewn cyfnodolion Cymraeg; ysgrifennodd R. Williams Parry soned iddo wedi iddo farw.

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, ac yna yn y Collège de Jeunes Filles yn Saumur, Ffrainc rhwng 1896-7.

Trodd ei golygon tuag Iwerddon, lle dysgai Ffrangeg mewn ysgol yn Bray, Swydd Wicklow, yn 1897 ac yn Nhregaron rhwng 1898 a 1905, cyn symud eto i'r Barri yn 1905 hyd at 1918. Yna, fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Gweithredol Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru gan olynu Robert Silyn Roberts. Bu'n aelod o griw'r Welsh Outlook yn y Barri, gyda Silyn a Thomas Jones yn eu harwain mewn trafodaethau ar lenyddiaeth. Yn dilyn anogaeth y grŵp golygodd hi gyfrol o farddoniaeth Gymraeg a ymddangosodd yn 1918: Telyn y Dydd yng Nghyfres yr Enfys. Bu'n boblogaidd iawn mewn ysgolion; cymaint felly, fel y bu'n rhaid cyhoeddi'r pedwerydd argraffiad yn 1929.

Bu farw'n ddibriod yng Nghaernarfon ar 12 Tachwedd 1962 yn 85 oed.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Papurau Annie Foulkes a'i thad yn Llyfrgell Coleg Bangor (llawysgrifau Bangor 16040-16410, 16590-16668)
  • Carnarvon and Denbigh Herald, 1832 ff, 16 a 23 Tach. 1962

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]