Chwarel Dinorwig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hollti llechi yn Chwarel Dinorwig tua 1910.

Roedd Chwarel Dinorwig yn un o’r ddwy chwarel fwyaf yng Nghymru gyda Chwarel y Penrhyn. Ar un adeg y ddwy yma oedd y chwareli mwyaf yn y byd.

Mae’r chwarel ar lechweddau Elidir Fawr, yr ochr arall i Lyn Padarn i bentref Llanberis. Fel gyda’r ardaloedd llechi eraill, gweithid y llechi gan bartneriaethau bychain o chwarelwyr yn y 18fed ganrif. Yn 1787 ffurfiwyd un bartneriaeth fawr i weithio’r chwarel, ac yn 1809 cymerodd y meistr tir, Thomas Assheton Smith o’r Faenol, reolaeth y chwarel i’w ddwylo ei hun.

Yn 1824 agorwyd Rheilffordd Padarn fel tramffordd, ac yn 1843 trowyd hi yn reilffordd. Roedd yn cludo llechi o’r Gilfach Ddu ger Llanberis i’r Felineli, lle adeiladwyd porthladd dan yr enw ‘’Port Dinorwic’’ i allforio’r llechi. Rheilffordd Padarn oedd y gyntaf o reilffyrdd y chwareli i ddefnyddio trenau ager, yn 1843.

Amcangyfrifodd y Mining Journal yn 1859 fod Chwarel Dinorwig yn gwneud elw o £70,000 y flwyddyn. Erbyn diwedd y 1860au roedd yn cynhyrchu 80,000 tunnell o lechi y flwyddyn.

Barics Mon yn Chwarel Dinorwig. Byddai gweithwyr o Ynys Mon yn aros yma yn ystod yr wythnos cyn dychwelyd ar y fferi ar brynhawn dydd Sadwrn.

Bu anghydfod diwydiannol yn 1874, yn dilyn ffurfio Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Cafodd tua 2,200 o chwarelwyr eu cloi allan ym mis Mehefin, ond ar ôl pum wythnos cytunodd y rheolwyr i dderbyn bodolaeth yr undeb. Ym mis Hydref 1885 bu anghydfod diwydiannol eto yn y chwarel oherwydd fod gwyliau’r chwarelwyr yn cael eu lleihau, ac o ganlyniad clowyd y gweithwyr allan. Fel y chwareli eraill, effeithiwyd ar Dinorwig gan y ddau Ryfel Byd a’r Dirwasgiad Mawr, ac yn 1969 caeodd y chwarel, gyda dros 300 o chwarelwyr yn colli eu swyddi.

Erbyn hyn mae rhan o Chwarel Dinorwig o fewn Parc Gwledig Padarn, tra mae’r rhan arall yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Gorsaf Bwer Dinorwig sydd o dan yr hen chwarel. Trowyd hen weithfeydd y chwarel yn Amgueddfa Llechi Cymru, gyda arddangosfeydd yn cynnwys hen dai chwarelwyr o Danygrisiau ger Blaenau Ffestiniog.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Jones, Reg Chambers Dinorwic : the Llanberis slate quarry 1780-1969 (Bridge Books, 2006) ISBN 1844940330
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: