Thomas Assheton Smith
| Thomas Assheton Smith | |
|---|---|
| Ganwyd | 1752 Ashley |
| Bu farw | 12 Mai 1828 |
| Man preswyl | Tedworth House, Faenol |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cricedwr, person busnes, gwleidydd |
| Swydd | Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr, Siryf Sir Fôn, Siryf Sir Gaernarfon, Siryf Sir Gaernarfon, Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon |
| Tad | Thomas Assheton-Smith |
| Mam | Mary |
| Plant | Thomas Assheton Smith, Elizabeth Assheton-Smith |
| Chwaraeon | |
Roedd Thomas Assheton Smith (1752 - 12 Mai 1828) yn dirfeddiannwr a fu a rhan bwysig yn natblygiad diwydiant llechi Cymru.
Roedd Smith yn fab i Thomas Assheton o Ashley yn Swydd Gaer yn Lloegr. Ychwanegodd y "Smith" at ei gyfenw pan etifeddodd ystadau Y Faenol a Tedworth oddi wrth ei ewythr, William Smith. Bu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn 1783-4 ac yn Aelod Seneddol y sir o 1774 hyd 1780. Yn 1806 perswadiodd y Senedd i basio mesur yn cau tir comin plwyf Llanddeiniolen, gan ychwanegu'n fawr at ei diroedd. Yn 1809 cymerodd reolaeth y chwareli llechi ar ei dir i'w ddwylo ei hun, gan ffurfio cwmni o bedwar, gydag ef ei hun yn Llywydd. Yn ddiweddarach dadgorfforwyd y cwmni a daeth ef yn gyfrifol am y busnes ar ei ben ei hun. Erbyn 1826 roedd Chwarel Dinorwig yn cyflogi 800 o ddynion ac yn cynhyrchu 20,000 tunnell o lechi y flwyddyn. Datblygodd Assheton Smith borthladd yn Y Felinheli dan yr enw Port Dinorwic i allforio'r llechi o'r chwarel.
Priododd Assheton Smith ag Elizabeth, merch Watkin Wynn o'r Foelas. Bu farw yn Tedworth yn 1828, ac etifeddwyd ystad y Faenol gan ei ail fab, yntau hefyd yn Thomas Assheton Smith (1776-1858).
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953).