Rheilffordd Padarn
Math | cwmni rheilffordd, llinell rheilffordd, wagonway |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1843 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1455°N 4.1706°W |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Roedd Rheilffordd Padarn yn reilffordd gul yng Ngwynedd, oedd yn cael ei defnyddio i gario llechi o Chwarel Dinorwig ger Llanberis i'r porthladd yn Y Felinheli i'w hallforio. Rhedai'r rheilffordd o weithdai'r chwarel yn y Gilfach Ddu.
Agorwyd y lein fel tramffordd gyda'r wageni yn cael eu tynnu gan geffylau yn 1824. Yn 1843 fe'i gwnaed yn rheilffordd, y rheilffordd chwarel gyntaf i ddefnyddio trenau ager. Roedd 4 troedfedd rhwng y cledrau, sy'n bur anarferol. Nodwedd anarferol arall oedd fod rheiliau culach (1 droedfedd 10.75 modfedd) wedi eu gosod ar y wageni, fel bod y wageni llechi o'r chwarel yn medru cael eu cario ar y wageni hyn, bedair wagen ar y tro.
Caeodd y rheilffordd yn 1961. Ail-agorwyd rhan o'r trac i gario twristiaid ar hyd glan Llyn Padarn.
Trenau
[golygu | golygu cod]Enw | Adeiladydd | Math | Dyddiad | Rhif gwaith | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|
Fire Queen | Horlock and Company | 0-4-0 tender | 1848 | Yn awr yn amgueddfa Castell Penrhyn | |
Jenny Lind | Horlock and Company | 0-4-0 tender | 1848 | Scrapiwyd yn yr 1880au. | |
Dinorwic | Hunslet | 0-6-0T | 1882 | 302 | Scrapiwyd 1963 |
Pandora | Hunslet | 0-6-0T | 1886 | 410 | Ail-enwyd yn Amalthea yn 1909. Scrapiwyd 1963 |
Velinheli | Hunslet | 0-6-0T | 1895 | 631 | Scrapiwyd 1963 |
Hardy | Hardy Motors Ltd. | 4wPM | 1925 | 954 | Scrapiwyd 1963 |