Tan-y-grisiau

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Tanygrisiau)
Jump to navigation Jump to search
Tan-y-grisiau
View of Tanygrisiau.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.9867°N 3.9569°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH687450 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Gwefan www.stiniog.com Golygu ar Wicidata

Hen bentref chwarel yw Tan-y-grisiau ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd Tanygrisiau), ger Blaenau Ffestiniog yn Ngwynedd.

Codwyd y pentref ar gyfer y chwarelwyr a weithiai yn chwareli'r Moelwynion, uwchlaw'r pentref i'r gogledd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Yn agos i Dan-y-grisiau mae argae Llyn Stwlan, rhwng Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach, â'i phwerdy trydan dŵr. Mae ffordd o'r pentref yn dringo i fyny iddo a cheir canolfan ymwelwyr yno.

Mae Rheilffordd Ffestiniog, sy'n cysylltu Blaenau Ffestiniog â Phorthmadog, yn mynd trwy'r pentref ac yn atyniad twristaidd pwysig yn yr haf.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Brodor o Dan-y-grisiau oedd y bardd ac emynydd Moelwyn (1866-1944). Roedd ei emynau'n boblogaidd iawn ar droad yr 20g.
  • Bardd arall o'r pentref oedd Lewis Moelwyn Jones (Lewis Moelwyn).
  • Bu'r bardd a diwygiwr cymdeithasol Silyn yn weinidog yn Nhan-y-grisiau o 1905 hyd 1912.
  • Gwyn Thomas - cafodd y bardd ac ysgolhaig ei eni yn y pentref yn 1936.
  • Mae'r cerddor Gai Toms (Gareth J. Thomas), yn hanu o Danygrisiau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: