Gai Toms
Gai Toms | |
---|---|
![]() | |
Gai Toms, 2009 | |
Gwybodaeth gefndirol | |
Enw genedigol | Gareth J. Thomas |
Enw arall | Mim Twm Llai |
Ganwyd | 14 Medi 1976 |
Man geni | ![]() |
Cerddoriaeth | Gwerin, Roc, Roots, |
Offeryn(au) cerdd | llais, gitâr, gitâr fâs, harmonica, |
Blynyddoedd | 1992–presennol |
Label(i) recordio | Crai, Sbensh |
Cysylltiedig | Anweledig Mim Twm Llai Bob Delyn a'r Ebillion |
Gwefan | www.gaitoms.com |
Cerddor, canwr a pherfformiwr Cymraeg yw Gai Toms. Ei enw genedigol yw Gareth J. Thomas (ganwyd 14 Medi 1976 ym Mangor, Gwynedd).[1]
Cynnwys
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Anweledig a Mim Twm Llai[golygu | golygu cod y dudalen]
Cychwynnodd Gai Toms ei yrfa fel cerddor pan gyd-ffurfiodd y band roc/ska Cymraeg poblogaidd Anweledig efo Michael Jones (gitâr) a Rhys Roberts (bâs) ar Ŵyl San Steffan 1992.
Bu Gai'n perfformio o dan y llysenw Mim Twm Llai rhwng 1997 a 2007. Mae Gai hefyd wedi gweithio fel actor ar y teledu, yn ogystal â chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y teledu a'r theatr. perfformiodd hefyd yn y Smithsonian Folklife Festival a SXSW yn yr Unol Daleithiau.
Albymau[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhyddhaodd Gai yr albwm eco-gysyniadol Rhwng y Llygru a'r Glasu o dan ei enw ei hun yn 2008, a arweiniodd at ddwy wobr Roc a Phop (RAP) BBC Radio Cymru, y naill am y telynegwr gorau, a'r llall am artist gorau y flwyddyn honno. Recordiodd Gai yr albwm yn ei gartref yn nhref Blaenau Ffestiniog, Gwynedd gan ddefnyddio ynni glân a drymiau a achubwyd o domennydd sbwriel. Cafodd y gwaith celf ar glawr yr albwm a'r deunydd pecynnu hefyd eu cynhyrchu o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu. Mae pob can ar yr albwm yn ymdrin â chwestiynau am gynaladwyedd yn ogystal â'n bodolaeth a'n pwrpas yn y byd. Defnyddiwyd ystod eang o arddulliau cerddorol ar yr albwm hwn, gan gynnwys y felan 'wenfflam' a rymba 'iard sbwriel'. Yr albwm hwn oedd y cyntaf i ymddangos o dan label Gai, Sbensh.
Fel arfer, bydd Gai Toms yn perfformio yn ei iaith gyntaf, sef Cymraeg. Ym mis Tachwedd 2012 cyhoeddodd Gai ei fod yn bwriadu rhyddhau albwm ddwbl o ddwy ar hugain o ganeuon newydd o'r enw Bethel fydd yn cynnwys deg cân werin eu naws 'wreiddiol, amrwd a bythol' a deuddeg 'clasur aml-arddull' ym mis Rhagfyr 2012[2]
Cân i Gymru[golygu | golygu cod y dudalen]
Daeth Gai Toms yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2010 gyda'r gân Deffra.[3] Llwyddodd Gai i gyrraedd y rownd derfynol Cân i Gymru unwaith yn rhagor yn 2011, gan ddod yn drydydd y tro hwn gyda'r gân Clywch.[4] Ond ar y trydydd cynnig i'r Cymro - yn 2012 - cipiodd y wobr gyntaf gyda'r gân: Braf yw Cael Byw.
Dylanwadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Gai Toms yn rhestru Meic Stevens, Bob Delyn a'r Ebillion, Tom Waits, Manu Chao, Super Furry Animals, John Prine, Django Rheinhardt, Old Crow Medicine Show a Devendra Banhart fel dylanwadau ar ei waith.
Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Gai Toms[golygu | golygu cod y dudalen]
- 2017 Gwalia (Albwm, CD)
- 2015 The Wild, The Tame and The Feral (Albwm, CD - Sbensh CD003)
- 2012 Bethel (Albwm, CD - Sbensh CD002)
- 2008 Rhwng y Llygru a'r Glasu (Albwm, CD - Sbensh CD001)
Mim Twm Llai[golygu | golygu cod y dudalen]
- 2006 Yr Eira Mawr (L.P.) Crai
- 2005 Straeon y Cymdogion (L.P.) Crai
- 2002 O'r Sbensh (L.P.) Crai
Anweledig[golygu | golygu cod y dudalen]
- 2004 Byw (E.P.) Crai
- 2001 Low Alpine (E.P.) Crai
- 2001 Gweld y Llun (L.P.) Crai
- 2000 Scratchy (E.P.) Zion Train cywaith. Crai
- 1999 Cae yn Nefyn (E.P.) Crai
- 1998 Sombreros yn y Glaw (L.P.) Crai
Gweithiau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]
- 2006 Dan y Cownter 2, Detholwyd gan Huw Stephens (Un gân o dan yr enw Mim Twm Llai)
- 2006 Llythyrau Ellis Williams. (canodd Dilyn Gorwelion)
- 2005 Dore, Bob Delyn a'r Ebillion (chwaraeodd y gitar fâs)
- 2003 Clyw Leisiau'r Plant (CD Aml-gyfranog) (Un gân o dan yr enw Mim Twm Llai) Crai (CRAI CD091)
- 2003 Cymuned: Y Gwir yn Erbyn y Byd (CD Aml-gyfranog) (Un gân o dan yr enw Mim Twm Llai)
Protest torri cyllideb S4C[golygu | golygu cod y dudalen]
Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Gai Toms yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[5]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan swyddogol; adalwyd 24/11/2012
- ↑ [1]
- ↑ Gwefan Cân i Gymru 2010 S4C
- ↑ Gwefan Cân i Gymru 2011 S4C
- ↑ Protest S4C: ‘Bydd cant yn troi’n gannoedd’. Golwg360 (11 Ionawr 2011).
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
|