Gwahoddodd S4C ac Avanti ysgrifenwyr a chyfansoddwyr caneuon i anfon eu caneuon rhwng y 15 Hydref 2009 i 11 Rhagfyr 2009. Roedd yn rhaid i'r caneuon gael eu cyflwyno ar CD neu gasét neu ffeil MP3 gyda ffurflen gystadlu. Roedd y rheolau eraill yn cynnwys:
- bod yn rhaid i'r gân fod yn Gymraeg
- bod yn rhaid i'r cystadleuwyr fod yn 16 oed o leiaf ar 11 Rhagfyr 2009
- bod yn rhaid i'r gân â'i thelynegion fod yn wreiddiol
- na all y gân fod ar gael cyn 11 Rhagfyr 2009
Bydd y rheithgor yn gwerthuso pob cân ac yn creu rhestr fer o wyth cân i'w perfformio ar y sioe'n fyw. Bydd yr ysgrifenwyr/cyfansoddwyr buddogol yn ennill £10,000 a gwahoddiad i'r Pan Celtic Festival yn Iwerddon. Ennilla'r gân yn yr ail safle £2,000.[2]
Y Rownd Derfynol
| Trefn | Artist | Cân | Cyfansoddwyr |
Safle |
Gwobr |
| 1 | Beth Williams | Gwên ar fy Wyneb | Megan Rhys Williams |
|
|
| 2 | Tomos Wyn | Bws i'r Lleuad | Alun Tan Lan |
1af |
£10,000 |
| 3 | Estynedig | Deffra | Gai Toms |
3ydd |
£1,500 |
| 4 | Matthew Wall a Deio Jones | Ti a ddaeth o Dramor | |
|
|
| 5 | Yr Ods | Aros yn yr Un Lle | Osian Howells |
|
|
| 6 | Lowri Evans | Pob Siawns | Lowri Evans a Lee Mason |
|
|
| 7 | Jaci Williams ac Aron Elias Jones | Gorwel | Jaci Williams a Aron Elias Jones |
2il |
£2,000 |
| 8 | Martin Beattie | Glyn Dŵr | Simon Gardner, Andrew Moore, a Tudur Morgan |
|
|