Neidio i'r cynnwys

Cân i Gymru 2014

Oddi ar Wicipedia
Cân i Gymru 2014
Rownd derfynol 28 Chwefror 2014
Lleoliad Pafiliwn Môn, Gwalchmai
Artist buddugol Mirain Evans
Cân fuddugol Galw Amdanat Ti
Cân i Gymru
◄ 20132015 ►

Cynhaliwyd Cân i Gymru 2014 ym Mhafiliwn Mon yng Ngwalchmai. Cyflwynwyr y noson oedd Elin Fflur a Gethin Evans.

Cyrhaeddodd 6 cân y rhestr fer i gystadlu ar y noson. Enillwyr y gystadleuaeth oedd Barry a Mirain Evans, tad a merch o Chwilog gyda'u cân 'Galw Amdanat Ti'. Mirain Evans yw'r cystadleuydd ieuengaf i ennill y gystadleuaeth.[1]

Cystadleuwyr

[golygu | golygu cod]
Trefn Artist Cân Cyfansoddw(y)r Safle
01 Gruff Sion Rees Aderyn y Nos Gruff Siôn Rees
02 Y Cledrau Agor y Drws Joseff Owen, Marged Gwenllian, Ifan Prys, ac Alun Roberts
03 Gwilym Bowen Rhys Ben Rhys Gwilym Bowen Rhys a Siân Harris
04 Kizzy Crawford Brown Euraidd Kizzy Crawford
05 Mirain Evans Galw Amdanat Ti Barry Evans a Mirain Evans 1af £3,500
06 Ifan Davies a Gethin Griffiths Dydd yn Dod Ifan Davies a Gethin Griffiths

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Barry a Mirain Evans yn ennill Cân i Gymru 2014". BBC Cymru Fyw. 2014-02-28. Cyrchwyd 2025-08-18.