Cân i Gymru 2006

Oddi ar Wicipedia

Cynhaliwyd Cân i Gymru 2006 ar Ddydd Gwyl Dewi yng nghanolfan yr Afan Lido ym Mhort Talbot. Cyflwynwyd y rhaglen gan Sarra Elgan a Hefin Thomas, prif leisydd y band Mattoidz.

Cân i Gymru 2006
Rownd derfynol 1 Mawrth 2006
Lleoliad Afan Lido, Port Talbot
Artist buddugol Ryland Teifi
Cân fuddugol Lili'r Nos
Cân i Gymru
◄ 2005        2007 ►


Dyma'r gystadeluaeth gyntaf o dan ofal cwmni cynhyrchu Avanti, ac fe'i nodir am gyflwyno delwedd a logo cyson i'r rhaglen, ac agorawd cerddorol trawiadol gan Catrin Finch yn canu'r delyn.

Dyma'r tro cyntaf i ganeuon gael eu cyflwyno o dan dri chategori: y cyhoedd, cyfansoddwyr, a pherfformwyr. Dyma ymddangosiad cyntaf y gantores Amy Wadge, a aeth ymlaen i gyfansoddi caneuon ar gyfer Ed Sheeran.

Bu 9 cân yn cystadlu. Enillydd y gystadleuaeth oedd Ryland Teifi gyda'r gân 'Lili'r Nos'.

Trefn Categori Artist Cân Cyfansoddw(y)r Safle Gwobr
Steffan Rhys Williams Jiwbili Geraint Griffiths
Amy Wadge Anodd dy Garu Amy Wadge
Tara Bethan Golau'r Ffair Robert Gavin ac Iwan Roberts 1af (categori) £3,000
Dyfrig Wyn Evans Byw i'r Funud Dyfrig Wyn Evans
Ryland Teifi Lili'r Nos Ryland Teifi 1af (categori a'r gystadleuaeth) £10,000
Iolo Edger Siarad 'da Fi Iolo Edger
Beth Williams Llygaid Disglair Dafydd Saer
Dan Amor Digon yw Digon Steffan Ellis 1af (categori) £3,000
Rebecca Trehearne Edifar Heledd Wyn