Neidio i'r cynnwys

Cân i Gymru 2018

Oddi ar Wicipedia
Cân i Gymru 2018
Rownd derfynol 1 Mawrth 2018
Lleoliad Canolfan Pontio, Bangor
Artist buddugol Ceidwad y Gân
Cân fuddugol Cofio Hedd Wyn
Cân i Gymru
◄ 2017        2019 ►

Cynhaliwyd Cân i Gymru 2018 yng nghanolfan celfyddydau Pontio ym Mangor. Cyflwynwyd y rhaglen gan Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris.

Roedd 114 o ymgeiswyr eleni, y "nifer fwyaf ers rhai blynyddoedd" yn ôl S4C.[1] Dewiswyd 8 ar gyfer y rhestr fer gan y panel o feirniaid sef Al Lewis, Heledd Watkins a Dewi ‘Pws’ Morris.[2]

Enillydd y gystadleuaeth oedd 'Cofio Hedd Wyn' ysgrifennwyd gan Erfyl Owen a berfformiwyd gan y band Ceidwad y Gân. Bydd y gân yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn yr Wyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon.[1]

Cystadleuwyr

[golygu | golygu cod]
Trefn Artist Cân Cyfansoddw(y)r Safle Gwobr
01 Elin Parisa Fouladi Dwi'm yn dy 'Nabod Di Dafydd Dabson ac Anna Georgina
02 Steffan Rhys Hughes Ton Gwynfor Dafydd a Michael Phillips
03 Glain Rhys Ysbrydion Aled Wyn Hughes
04 Ceidwad y Gân Cofio Hedd Wyn Erfyl Owen 1af £5,000
05 Hana Evans Dim Hi Hana Evans
06 Ragsy Ti'n Frawd i Mi Owain Glenister
07 Mared Williams Byw a Bod Mared Williams 2il £2,000
08 Beth Williams-Jones a Sam Humphreys Tincian Beth Williams-Jones a Sam Humphreys 3ydd £1,000

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Erfyl Owen o ardal Rhuthun yn ennill Cân i Gymru". BBC Cymru Fyw. 2018-03-01. Cyrchwyd 2025-08-18.
  2. "Dewis caneuon Cân i Gymru 2018". Golwg360. 2018-01-22. Cyrchwyd 2025-08-18.