Cân i Gymru 2024

Oddi ar Wicipedia
Cân i Gymru 2024
Rownd derfynol 1 Mawrth 2024
Lleoliad Arena Abertawe
Artist buddugol Sara Davies
Cân fuddugol Ti
Ysgrifenn(wyr) buddugol Sara Davies
Cân i Gymru
◄ 2023        2025 ►
Cân i Gymru 2024

Cynhaliwyd cystadleuaeth Cân i Gymru 2024 yn Arena Abertawe, ar 1 Mawrth. Y cyflwynwyr oedd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris.

Roedd tlws newydd eleni, gyda newidiadau i'r gwobrwyon ariannol hefyd. Y prif wobr oedd £5,000, ac roedd enillydd yr ail wobr yn derbyn £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn derbyn £2,000. Roedd 118 o ymgeiswyr eleni a beirniaid y panel oedd Bronwen Lewis, Dom James, Mared Williams a Carwyn Ellis - gydag Osian Huw Williams, prif leisydd Candelas, yn cadeirio.[1]

Y gan fuddugol oedd "Ti", a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd gan Sara Davies sy'n byw yn Llandysul ac yn athrawes cerddoriaeth, drama a lles yn Ysgol Uwchradd Tregaron. Mae hi'n wreiddiol o Hen Golwyn. Ysgrifennwyd geiriau'r gân gan ei thaid. Wedi iddo farw aeth Sara ati i gyfansoddi'r gerddoriaeth.[2] Aeth ei chân ymlaen i'r Ẃyl Ban Geltaidd lle cipiodd y wobr am y Gân Ryngwladol Orau.[3]

Cafwyd nifer fawr o gwynion eleni am wylwyr yn methu pleidleisio. Roedd nifer o sylwadau gan bobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud nad oedd eu ffôn yn gallu cysylltu gyda'r rhif yn dechrau 0900 am fod cyfyngiad ar ei darparwr, neu fod dim cadarnhad o bleidleisio i'w glywed.

Dywedodd S4C bod 17,000 o bleidleisiau wedi ei cyfri, mwy na'r flwyddyn cynt. Er hynny roeddent yn bwriadu adolygu'r trefniadau pleidleisio.[4]

Trefn Perfformiwr/wyr Cân Cyfansoddw(y)r Safle Gwobr
1 Elin Hughes Heno Elfed Morgan Morris a Carys Owen
2 Jacob Howells Yr Un Fath Jacob Howells
3 Lowri Jones Cymru yn y Cymylau Lowri Jones a Siôn Emlyn Parry
4 Owain Huw a Llewelyn Hopwood Mêl Owain Huw a Llewelyn Hopwood
5 Gwion Phillips Cysgod Coed Gwion Phillips ac Efa Rowlands 3ydd £2,000
6 Siôn Rickard Pethau yn Newid Siôn Rickard
7 Sara Davies Ti Sara Davies 1af £5,000
8 Moli Edwards Goleuni Steve Balsamo a Kirstie Roberts 2il £3,000

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2024 , BBC Cymru Fyw, 18 Chwefror 2023. Cyrchwyd ar 18 Chwefror 2024.
  2. "Sara Davies yn ennill Cân i Gymru 2024". BBC Cymru Fyw. 2024-03-01. Cyrchwyd 2024-03-01.
  3. "Llwyddiant i Sara Davies yn yr Ŵyl Ban Geltaidd". newyddion.s4c.cymru. 2024-04-04. Cyrchwyd 2024-04-04.
  4. "S4C yn ymchwilio i drafferthion pleidleisio Cân i Gymru". BBC Cymru Fyw. 2024-03-02. Cyrchwyd 2024-03-02.