Neidio i'r cynnwys

Elin Fflur

Oddi ar Wicipedia
Elin Fflur
Ganwyd1984 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
Arddullroc poblogaidd, Canu gwerin, cerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.elinfflur.co.uk/ Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cantores, cyfansoddwraig a chyflwynydd teledu o Gymru yw Elin Fflur Llewelyn Harvey a adnabyddir fel Elin Fflur (ganwyd 1984).[1]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Magwyd Elin yn Llanfairpwll ar Ynys Môn.[2] Roedd ei mam Nest Llewelyn Jones yn prif ganwr gyda'r grŵp gwerin Bran ac enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1978. Cychwynnodd Elin gymryd rhan mewn eisteddfodau lleol yn 3 oed lle'r oedd ei mam hefyd yn parhau i ganu mewn corau. Fe'i hysbrydolwyd gan rai o hoff artistiaid ei thad, fel Joni Mitchell, Leonard Cohen a'i hoff gantores Janis Ian.[3] Mae ei brawd Gwion Llŷr Llewelyn hefyd yn gerddor ac wedi bod yn ddrymiwr gyda Race Horses ac Yr Ods.

Mynychodd Ysgol David Hughes, Porthaethwy ac aeth ymlaen i astudio troseddeg ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd yn brif gantores y grŵp Carlotta ac aeth ymlaen i fod yn brif gantores gyda'r Moniars.[4]

Daeth i sylw'r cyhoedd ar ôl perfformio cân fuddugol Cân i Gymru ar S4C yn 2002, yn dilyn ei mam yn y gamp honno.[5]. Gadawodd y brifysgol ar ôl y flwyddyn gyntaf pan cafodd lwyddiant gyda'i gyrfa gerddorol a recordiodd ei halbwm unigol cyntaf, Dim Gair yn 2003.

Roedd yn un o'r Jonesus a dorrodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd ran.[6][7][8]

Yn 2012, fe ymunodd fel gohebydd a chyflwynwraig ar y rhaglen gylchgrawn Heno.[9] Cyflwynydd hi'r gystadleuaeth Cân i Gymru 2023.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae'n briod a Jason Harvey. Yn 2018 darlledwyd y rhaglen ddogfen Chdi, Fi ac IVF ar S4C, lle roedd y cwpl yn rhannu eu profiadau wrth geisio gael plentyn drwy driniaeth IVF.[10]

Disgograffi

[golygu | golygu cod]

Albymau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Proffeil o Elin Fflur. BBC Lleol. Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
  2.  Proffeil o Elin Fflur, bydd yn perfformio ym mhentref ieuenctid y Sioe Frenhinol.. BBC Cymru. Adalwyd ar 11 Mai 2019.
  3. Penny's People: Elin Fflur is living her dream , Daily Post, 7 Chwefror 2015. Cyrchwyd ar 11 Mai 2019.
  4.  Elin Fflur. BBC (18 Tachwedd 2008).
  5. Cân i Gymru ar wefan S4C
  6. 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
  7. "1,224 o Jonesiaid yn torri record byd!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-01. Cyrchwyd 2007-11-07.
  8. Meet the Joneses for world record BBC 19 Gorffennaf 2006
  9.  Elin Fflur a bwrlwm heintus criw Heno. S4C (20 Mai 2012). Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
  10. Elin Fflur yn trafod “gobaith a thorcalon” ei siwrnai IVF , Golwg360, 9 Medi 2018. Cyrchwyd ar 11 Mai 2019.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]