Cân i Gymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cân i Gymru
Logo Can i Gymru.jpg
Gwlad/gwladwriaeth Baner Cymru Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Rhediad cyntaf yn 1969
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Rhaglen deledu a chystadleuaeth cân yw Cân i Gymru a chaiff ei darlledu gan S4C o gwmpas Dydd Gŵyl Ddewi. Cyflwynwyd am y tro cyntaf ym 1969 pan oedd BBC Cymru eisiau cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision. Fodd bynnag, dywedodd y BBC mai dim ond un gân y gallai'r Deyrnas Unedig gyflwyno yn y gystadleuaeth.[1] Mae wedi cael ei chynnal yn flynyddol ers hynny, heblaw am 1973. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gystadleuthau tebyg, dim ond cerddorion proffesiynol caiff eu gwahodd i gystadlu. Ni all y cyhoedd gystadlu.

Caiff y gân fuddugol ei dewis drwy bleidlais lle mae aelodau'r cyhoedd yn ffonio am eu hoff gân. Pe digwydd i ddwy gân gael yr un nifer o bleidleisiau, mae panel o arbenigwyr yn dewis y gân fuddugol. Rhoddir gwobr o £10,000 i'r enillydd ac ânt ymlaen i gystadlu yn Celtavision, a gynhelir yn Iwerddon fel rhan o'r Gŵyl Ban Geltaidd. Fodd bynnag, ni chaiff y gystadleuaeth hon ei darlledu ar y teledu ac o ganlyniad nid yw llawer o Gymry yn ymwybodol o bwy sy'n ennill.

Rhestr enillwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Cân[2] Perfformiwr/perfformwyr
1969 Y Cwilt Cymreig Margaret Williams
1970 Dydd o Haf Y Canolwyr
1971 Nwy yn y Nen Eleri Llwyd
1972 Pan Ddaw'r Dydd Heather Jones
1973 Dim cystadleuaeth
1974 I Gael Cymru'n Gymru Rydd Iris Williams
1975 Caledfwlch Brân (grwp)
1976 Y Llanc Glas Lygad Rhian Rowe
1977 Dafydd ap Gwilym Cawl Sefin
1978 Angel Ble Wyt Ti Delwyn Siôn a Brân
1979 Ni Welaf yr Haf Pererin (grwp)
1980 Golau Tan Gwmwl Plethyn
1981 Dechrau Dyfodol Beca
1982 Nid Llwynog Oedd yr Haul Caryl Parry Jones a Bando
1983 Popeth Ond Y Gwir Linda Healy a Cleif Harpwood
1984 Y Cwm Geraint Griffiths
1985 Ceiliog y Gwynt Bwchadanas
1986 Be Ddylwn i Ddweud Eirlys Parri
1987 Gloria Tyrd Adre Eryr Wen
1988 Can Wini Manon Llwyd
1989 Twll Triongl Hefin Huws
1990 Gwlad y Rasta Gwyn Sobin a'r Smaeliaid
1991 Yr Un Hen Lle Neil Williams a'r Band
1992 Dal i Gredu Eifion Williams
1993 Y Cam Nesa Paul Gregory
1994 Rhyw Ddydd Geraint Griffiths
1995 Yr Ynys Werdd Gwenda Owen
1996 Cerrig yr Afon Iwcs a Doyle
1997 Un Funud Fach Bryn Fôn
1998 Rho Dy Law Arwel Wyn Roberts
1999 Torri'n Rhydd Steffan Rhys Williams
2000 Cae o Yd Martin Beattie
2001 Dagrau Ddoe Geinor Haf
2002 Harbwr Diogel Elin Fflur
2003 Oes Lle i Mi Non Parry & Steffan Rhys Williams
2004 Dagrau Tawel Rhian Mair Lewis
2005 Mi Glywais Rhydian Bowen Philips
2006 Llii'r Nos Ryland Teifi
2007 Blwyddyn Mas Einir Dafydd
2008 Atgofion Aled Myrddin
2009 Gofidiau Elfed Morgan Morris
2010 Bws i'r Lleuad Tomos Wyn
2011 Rhywun yn Rhywle Tesni Jones
2012 Braf yw Cael Byw Gai Toms
2013 Mynd I Gorwen Hefo Alys Jessop a'r Sgweiri
2014 Galw Amdanat Ti Mirain Evans
2015 Y Lleuad a'r Sêr Elin Angharad


Mae nifer o gyfansoddwyr wedi bod yn fuddugol mwy nag unwaith, gan gynnwys Arfon Wyn. Ymhlith y caneuon poblogaidd a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth y mae Gwin Beaujolais (cân).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Can i Gymru Gwefan UKGameshows. Adalwyd ar 05-12-2010
  2. Archif Cân i Gymru ar S4C

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]