Caryl Parry Jones

Oddi ar Wicipedia
Caryl Parry Jones
Ganwyd16 Ebrill 1958 Edit this on Wikidata
Ffynnongroyw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, canwr, bardd, ysgrifennwr, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
TadRhys Jones (cerddor) Edit this on Wikidata
PriodMyfyr Isaac Edit this on Wikidata

Cantores, cyfansoddwraig, digrifwr, awdures a darlledwraig o Gymraes yw Caryl Parry Jones (ganwyd 16 Ebrill 1958). Cychwynodd fel cantores a chyfansoddwr caneuon. Daeth yn adnabyddus yn yr 1980au fel cyflwynydd teledu, digrifwr a dynwaredwr.

Ganed Caryl Parry Jones yn ferch i Rhys Jones, cerddor ac athro, a'i wraig Gwen,[1] fe'i magwyd yn Ffynnongroyw, rhwng Treffynnon a'r Rhyl, lle mynychodd Ysgol Mornant cyn symud ymlaen i Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Astudiodd y Gymraeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Mae'n briod â Myfyr Isaac, ac mae ganddynt bump o blant - Miriam, Greta, Elan a Moc. (Gideon yn llys fab iddi)[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei hamser yn yr ysgol uwchradd ffurfiodd y grwp Sidan gyda Sioned Mair, gan ryddhau un record hir, Teulu Yncl Sam, ynghyd â dwy record fer.

Ymunodd â'r band Gymraeg, Injaroc, tra yn y brifysgol, ond chwalodd y grŵp wedi naw mis, ar ôl rhyddhau un record hir o'r enw Halen y Ddaear. Un o ganeuon Caryl ar y record hon oedd Calon, cân a recordiwyd yn ddiweddarach gan grwp Diffiniad fel trac disgo yn ystod y 1990au.

Ar ôl gadael y coleg, symudodd i Gaerdydd lle y bu'n cyflwyno'r rhaglen blant Bilidowcar a'r gyfres bop, Sêr 2. Yno, ffurfiodd y grŵp Bando gyda Rhys Ifans, Gareth Thomas, Huw Owen, Martin Sage a Steve Sardar, a hithau yn brif leisydd. Rhyddhawyd sengl 'Space Invaders/ Wstibe' (1980) a dwy record hir, Hwyl ar y Mastiau (1980) a Shampŵ (1982), record sy'n cynnwys un o ganeuon mwyaf adnabyddus Caryl, sef Chwarae'n Troi'n Chwerw. Myfyr Isaac oedd cynhyrchydd y cyfan.

Wedi i Bando chwalu, parhaodd i berfformio gyda Myfyr Isaac o dan yr enw Caryl a'r Band. Ymddangosodd hefyd yn y ffilmiau Gaucho (1983) a The Mimosa Boys (1983). Mae hi hefyd yn chwarae'n fyw gyda'i band newydd, y Millionaires.

Teledu[golygu | golygu cod]

Cafodd gyfres deledu ei hun, Caryl, ar S4C rhwng 1983 a 1987 a oedd yn gyfuniad o berfformiadau cerddorol a sgetsys comedi. Ymddangosodd yn y gyfres Dawn yn gwneud dynwarediadau ac yn chwarae rhannau gwahanol gymeriadau, yn arbennig Glenys, Lavinia a Delyth. Yn ddiweddarach, seiliwyd dwy ffilm deledu ar y cymeriadau hyn, sef Ibiza, Ibiza! (1986) a Steddfod, Steddfod (1989), gyda Caryl yn ymddangos efo Siw Hughes, Huw Chiswell ac Emyr Wyn. Yn 1985 fe gyd-ysgrifennodd y ffilm gerdd Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig gyda Hywel Gwynfryn. Ar ddechrau y 1990au fe wnaeth hi chwarae rhan y fam yn y gyfres comedi deuluol Hapus Dyrfa.

Ymddangosodd Caryl ar y gyfres Wawffactor, y sioe dalent ar S4C, yn rhoi cyngor a hyfforddiant llais i'r cystadleuwyr.

Fe ddychwelodd i fyd comedi teledu yn 2013 gyda'r rhaglen Caryl ar S4C oedd yn cynnwys cymysgedd o sgetsus a cherddoriaeth,[3] a ddilynwyd gan dau gyfres pellach o dan y teil Caryl a'r Lleill yn 2014 a 2015. Fe aeth un o gymeriadau'r rhaglen gomedi, "Anita" ymlaen i serennu mewn rhaglen ddrama arbennig Anita yn 2015 a fe ddilynwyd hyn gan gyfres o chwe pennod yn Mawrth 2016.[4]

Roedd hefyd yn un o'r Jones's a dorodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.[5][6][7]

Radio[golygu | golygu cod]

Rhwng 2010 a 2014 roedd yn cyflwyno sioe frecwast ar BBC Radio Cymru gyda Dafydd Du.[8] Daeth y ddau nôl gyda'i gilydd i gyflwyno sioe gynnar ar Radio Cymru 2 yn Ionawr 2018.[9]

Yn 2022, cyhoeddwyd byddai Jones yn cyflwyno'r "shifft hwyr" ar BBC Radio Cymru, wrth olynu Geraint Lloyd.[10]

Awdur[golygu | golygu cod]

Caryl oedd Bardd Plant Cymru 2007–2008, ac mae erbyn hyn wedi ysgrifennu sawl llyfr ar gyfer plant.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Barti Smarti a Straeon a Cherddi Eraill, Mai 2008 (Gwasg Gomer)
  • Siocled Poeth a Marshmalos, Hydref 2009 (Gwasg Gomer)
  • Cyfres Dewin: 3. Ffrindiau'r Goedwig, Tachwedd 2011 (Gwasg Gomer)
  • Cyfres Dewin: 4. Ar Lan y Môr, Tachwedd 2011 (Gwasg Gomer)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Rhys Jones: Gŵr y Gân. S4C. Adalwyd ar 5 Ionawr 2012.
  2. Talent dibendraw’r Parry Isaacs Archifwyd 2017-06-19 yn y Peiriant Wayback.. Pobl Caerdydd, 18 Rhagfyr 2014; Adalwyd 2015-12-30
  3. Karen Price. Caryl Parry Jones provides a mix of comedy and music in her new TV series (en) , WalesOnline, 19 Ionawr 2013.
  4.  Anita’n codi gwên ar nos Sul. S4C (11 Mawrth 2016).
  5. 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
  6. "1,224 o Jonesiaid yn torri record byd!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-01. Cyrchwyd 2007-11-07.
  7. Meet the Joneses for world record BBC 19 Gorffennaf 2006
  8.  Dafydd a Caryl. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Rhagfyr 2017.
  9. Dafydd a Caryl yn ôl efo’i gilydd ar Radio Cymru 2 , Golwg360, 14 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd ar 29 Rhagfyr 2017.
  10. "Caryl Parry Jones yn olynu Geraint Lloyd fel cyflwynydd y 'shifft hwyr' ar Radio Cymru". Newyddion S4C. S4C. 2022-08-31. Cyrchwyd 2022-08-31.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]