Chwarae'n troi'n chwerw

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Chwarae'n Troi'n Chwerw)

Dihareb Gymraeg yw Chwarae'n troi'n chwerw.[1]

Mae'n deitl cân gan Caryl Parry Jones gyda'r cytgan adnabyddus,

Ac mae chwarae'n troi'n chwerw
Mae'r gwin yn troi'n sur
Mae'r wên yn troi'n ddagrau
A'r wefr yn troi'n gur.
Ac os wyt ti'n rhywle yn gwrando ar fy nghân
Cofia fod chwarae'n troi'n chwerw
Wrth chwara 'fo tân.

Mae sawl artist wedi recordio neu berfformio'r gân. Ceir fersiwn ar Yr Atal Genhedlaeth, albwm solo cyntaf Gruff Rhys, aelod y band Super Furry Animals.

Yn ogystal mae Chwarae'n troi'n chwerw yn deitl nofel Gymraeg gan Geraint W. Parry (Gwasg Gomer, 1988)[2] a nofel ar gyfer yr arddegau gan Tudur Williams (Gwasg Carreg Gwalch, 2007).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]