Neidio i'r cynnwys

Geraint Lloyd

Oddi ar Wicipedia
Geraint Lloyd
Ganwyd9 Ionawr 1959 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd radio Edit this on Wikidata

Darlledwr o Gymro yw Geraint Lloyd (ganwyd 9 Ionawr 1959) a fu'n gyflwynydd ar Radio Ceredigion ac yna BBC Radio Cymru rhwng 1997 a 2022.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Geraint Hopkin Lloyd yn Lledrod, ger Aberystwyth, Ceredigion a mynychodd Ysgol Gynradd Lledrod ac yna Ysgol Uwchradd Tregaron.

Yn ddyn ifanc roedd yn ymwneud a'r byd ralïo ac aeth ymlaen i rasio 4x4s gan gynrychioli Cymru yn y gamp. Roedd hefyd yn gyfrifol am ddechrau clwb ralïo yn Aberystwyth yn yr 80au.

Bu'n gweithio fel cyflwynydd ar Radio Ceredigion am bum mlynedd, cyn ymuno â BBC Radio Cymru ym mis Ebrill 1997. Cychwynnodd wrth gyflwyno sioe rhwng 2 a 5 bob prynhawn o'r wythnos, cyn symud i'r slot 10pm-12am yn 2012.

Cyhoeddodd ei hunangofiant Geraint Lloyd - Y Dyn Tu Ôl i'r Llais yn 2013 (Y Lolfa, ISBN 978-1847717221).

Yn Awst 2022, cyhoeddwyd y byddai ei sioe nosweithiol yn dod i ben. Dywedodd Lloyd ei fod yn "sioc... Doeddwn i ddim yn disgwyl e, doedd dim sôn dim wedi bod, dim trafod, dim ond dweud ‘Dyna ni, bydd y rhaglen yn gorffen dechrau Hydref’".[1] Cafwyd beirniadaeth chwyrn gan rai o wrandawyr Lloyd, gyda deiseb yn galw ar BBC Radio Cymru i gadw ei sioe yn denu bron i ddwy fil o lofnodion. Dywedodd Dafydd Meredydd, Golygydd Radio Cymru, bod ffigyrau gwrando yn ffactor yn y penderfyniad i ddod a'r rhaglen i ben.[2]

Yn 2023, cafodd ddirwy gan yr adran Gyllid a Thollau EF (CThEF) am beidio talu treth dyledus rhwng 2012 a 2018. Dywedodd ei fod yn deillio o gamgymeriad yn 2013 a fod y treth wedi ei dalu.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geraint Lloyd yn “siomedig” gyda phenderfyniad Radio Cymru i ddod â’i raglen i ben , Golwg360, 9 Awst 2022.
  2. "Ffigyrau gwrando'n ffactor wrth waredu rhaglen Geraint Lloyd, medd golygydd". newyddion.s4c.cymru. 2026-02-13. Cyrchwyd 2026-02-14.
  3. Gogarty, Conor (2023-04-02). "The people and businesses caught evading tax in Wales". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-02-14.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.