Ysgol Glan Clwyd

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Glan Clwyd
Hen Adeilad Ysgol Glan Clwyd o'r ffordd fawr(Cyn adnewyddu yn 2017)
Arwyddair Harddwch, Doethineb, Dysg
Sefydlwyd 1956
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Sian Alwen
Dirprwy Bennaeth Eirian Williams
Lleoliad Ffordd Dinbych, Llanelwy, Sir Ddinbych, Cymru, LL17 0RL
AALl Cyngor Sir Ddinbych
Disgyblion 1034 (2022)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Gwefan www.ysgolglanclwyd.co.uk

Ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Llanelwy, Sir Ddinbych ydy Ysgol Glan Clwyd. Agorwyd yr ysgol ym 1956 fel yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf erioed. Ar y dechrau roedd yr ysgol wedi'i lleoli yn Y Rhyl (ar safle presennol Ysgol Gymraeg Dewi Sant), ond symudwyd i'w safle presennol yn Llanelwy yn 1969.[2]

Mae gan yr ysgol ddalgylch eang, gyda disgyblion yn teithio o'r ardal arfordirol rhwng Tywyn a Threffynnon hyd at bentrefi Dyffryn Clwyd i'r de ac i'r gorllewin o dref Dinbych. Roedd 725 o ddisgyblion yn yr ysgol ym mlynyddoedd 7–11 yn ystod arolygiad Estyn 2006, yn ogystal â 108 yn y chweched dosbarth, daeth 30% o’r disgyblion o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith yr aelwyd a 70% o gartrefi lle roedd y Saesneg yn brif neu'n unig iaith. Mae'r un adroddiad hefyd yn dweud fod 95% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf neu i safon gyfatebol.[1]

Ar yr un safle â'r ysgol mae Canolfan Hamdden Llanelwy a Theatr Elwy, sy'n rhannu eu cyfleusterau â'r ysgol.

Adeilad Newydd[golygu | golygu cod]

Fel rhan o gynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru adeiladwyd dau ddarn newydd o'r ysgol, y Dderbynfa a'r Hafan, ar ddarn o gaeau chwarae'r ysgol. Costiodd y prosiect £15.9 miliwn, ac roedd hefyd yn cynnwys adnewyddu'r hen adeilad. Agorwyd y ddau adeilad yn swyddogol ym mis Medi 2017 ond roedd disgyblion eisoes wedi symud i'r adeilad newydd ym mis Ionawr 2017.

Adeilad Newydd Ysgol Glan Clwyd yn 2017

Sioeau Cerdd[golygu | golygu cod]

Fel sawl ysgol, mae Ysgol Glan Clywd yn llwyfannu sioeau cerdd. Yn y gorffennol mae'r ysgol wedi llwyfannu sioe o'r enw Sioe Y Sioeau, gyda chaneuon o The Lion King a Hairspray. Mae'r ysgol hefyd wedi llwyfannu'r sioe Blood Brothers.

Yn 2023 dyma berfformio Yn y Dechreuad, sioe am hanes Ysgol Glan Clwyd o'i hagor yn 1956 yn yr Rhyl tan heddiw. Mae'r sioe yn cynnwys caneuon gan Caryl Parry Jones.

Côr Ysgol Glan Clwyd[golygu | golygu cod]

Mae'r ysgol yn nodedig am ei chorau.

Cyn-ddisgyblion o nod[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]