Neidio i'r cynnwys

Tara Bethan

Oddi ar Wicipedia
Tara Bethan
Ganwyd8 Rhagfyr 1984 Edit this on Wikidata
Llansannan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, canwr, dawnsiwr Edit this on Wikidata
TadOrig Williams Edit this on Wikidata

Actores, cantores a chyflwynydd o Gymru yw Tara Bethan (ganed Tara Bethan O. Williams; 8 Rhagfyr 1984). Mae'n perfformio a recordio caneuon pop o dan yr enw Tara Bandito.[1]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn ferch i'r reslwr Orig Williams a Wendy Young.[2] Fe'i magwyd yn Llansannan mewn cartref dwyieithog am nid oedd ei mam yn siarad Cymraeg.[3][4] Cychwynodd berfformio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn 5 mlwydd oed. Yn 8 mlwydd oed enillodd y gystadleuaeth dawnsio disco.[5] Ennillodd Wobr Wilbert Lloyd Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn ym 1999.[6]

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Bro Aled, Llansannan ac yna Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Graddiodd gydag anrhydedd o Goleg Ivor Novello - Redroofs Theatre School, lle'r enillodd dlws 'Perfformiwr Mwyaf Addawol y Flwyddyn'.

Perfformiodd yn y sioe Bugsy Malone ar lwyfan Theatr y Frenhines yn West End Llundain gyda'r National Youth Music Theatre. Yn 2003 roedd yn rhan o'r cynhyrchiad o'r sioe gerdd 'Nia Ben Aur'.[4] Fel actores mae wedi ymddangos mewn nifer o raglenni drama ar S4C yn cynnwys rhannau yn Rownd a Rownd a Caerdydd. Yn ddiweddarach treuliodd gyfnodau yn chwarae rhan Angela Probert ym Mhobol y Cwm.

Yn 2008, cymerodd ran mewn rhaglen I'd Do Anything ar BBC One, lle roedd 12 merch yn cystadlu am ran Nancy yn y sioe Oliver! yn y West End. Yn dilyn hynny gweithiodd fel yr adroddwr (sy'n canu) ar daith 17 mis o Joseph and The Amazing Technicolour Dreamcoat o gwmpas gwledydd Prydain.[7]

Teledu

[golygu | golygu cod]

Yn y 2000au cynnar Roedd yn aelod o'r grŵp Cic a greuwyd ar gyfer y rhaglen i blant o'r un enw.[4] Mae e wedi cyflwyno a chyfrannu i nifer o raglenni teledu, yn cynnwys arlwy yr Eisteddfod ar S4C.[6] Roedd yn feirniad ar y rhaglen oedd yn chwilio am blant i gynrychioli Cymru yn Junior Eurovision. Mae'n un o dîm cyflwyno Tafwyl ers 2022.[8]

Cerddoriaeth

[golygu | golygu cod]

Ei halbwm cyntaf oedd Does Neb Yn Fy Adnabod I a gyhoeddwyd ar label Sain.[4] Yn 2022 cychwynodd berfformio dan yr enw Tara Bandito gyda arddull a delwedd newydd. Cyhoeddwyd ei sengl cyntaf "Blerr" yn Ionawr 2022 ar label Recordiau Côsh.[9] Cafodd albwm hunan-deitlog ei ryddhau yn 2023[10] a fersiwn estynedig yn 2024.[3]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd Wil Roberts yn 2018. Ym Mehefin 2025 cyhoeddodd ei bod yn disgwyl babi. Roedd wedi bod yn ceisio beichiogi ers bron i dair blynedd.[11]

Cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 pan oedd yn 20 oed, yr aelod ieuengaf ar y pryd.

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rhan Cwmni cynhyrchu Nodiadau
2002-2003 Cic Tara 2 Gyfres
2002 Cân i Gymru Cystadleuydd Apollo
2003-2004 Xtra Ffilmiau'r Nant
2004 Emyn Roc a Rôl Anna Opus
2005 Footballer's Wives STacey Shed Productions
2007-2008 Caerdydd Lleucu Fiction Factory Cyfres 2-3
2007-2008 Rownd a Rownd Ffilmiau'r Nant
2008 I'd do Anything Cystadleuwr
2008 Cymru Fach Cowgirl Boom Cymru
2011 Orig Cyflwynydd Antena
2011-2016, 2018-2019 Pobol y Cwm Angela Probert BBC Cymru
2016 Gwaith/Cartref Carly Fiction Factory
2017-2018 Darren Drws Nesa Debbie Rondo
2017 Panto Shane a'r Belen Aur Kimberly Kick Boom Cymru
2018 Adre Gwestai Boom Cymru
2018-2019 Junior Eurovision: Chwilio am Seren Beirniad Dwy gyfres
2019 35 Awr Mererid Boom Cymru
2019 Panto Shane a'r Bont Hud Kimberly Kick Boom Cymru
2020- Bwrdd i Dri Trosleisio
2023 Itopia Sara
2023 Cymry ar Gynfas Cyfrannwr Wildflame Cyfres 4, Pennod 2
2025 Hafiach Mam Kelsey Vox Pictures

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Tara Bandito". FOCUS Wales 2026 (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-22.
  2. (Saesneg) Pobol Y Cwm star Tara Bethan pays tribute to wrestler dad Orig Williams in TV film. WalesOnline (18 Rhagfyr 2011). Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2013.
  3. 3.0 3.1 "Tara Bandito: "Be' ydy badass yn Gymraeg?"". BBC Cymru Fyw. 2024-12-12. Cyrchwyd 2025-06-22.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 "BBC - Gogledd Ddwyrain - Tara Bethan". BBC Cymru. Cyrchwyd 2013-07-29.
  5. Live, North Wales (2006-05-30). "Day President's fond memories of Urdd Eisteddfod". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-22.
  6. 6.0 6.1 "BBC Cymru'r Byd - Eisteddfod Genedlaethol 2006 - Cyflwynwyr yn cofio Steddfodau - da a drwg". BBC Cymru'r by. Awst 2006. Cyrchwyd 2025-06-22.
  7. Way, Emma (2023-05-02). ""I was carried through the crowd in a coffin" - One to watch: synthpop Welsh wrestling legacy TARA BANDITO". Buzz Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-22.
  8. "Tafwyl – yn fyw ac yn fwy | Y Wasg | S4C". s4c.cymru. Cyrchwyd 2025-06-22.
  9. Selar, Y. (2022-01-14). "Rhyddhau sengl gyntaf Tara Bandito". Y Selar. Cyrchwyd 2025-06-22.
  10. Selar, Y. (2023-01-18). "Sengl yn flas o albwm Tara Bandito". Y Selar. Cyrchwyd 2025-06-22.
  11. "Tara Bethan yn cyhoeddi ei bod yn disgwyl babi". newyddion.s4c.cymru. 2025-06-22. Cyrchwyd 2025-06-22.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]