Beth Jones

Oddi ar Wicipedia
Beth Jones
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr stand-yp Edit this on Wikidata

Mae Beth Jones yn ddigrifwraig o Ddyffryn Clwyd, a fynychodd Ysgol Glan Clwyd, ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ymhlith y gigs cynharaf yn ei gyrfa roedd gig Cymraeg gyda Gary Slaymaker ac Hywel Pitts fel rhan o Gŵyl Arall yng Nghaernarfon ym mis Gorffennaf 2016.[1]

Mae wedi ymddangos mewn amryw sioe a gŵyl. Bu'n perfformio yn sesiwn gomedi Eisteddfod Caerdydd 2018[2] ac mae wedi perfformio gyda chomedïwyr Cymraeg eu hiaith eraill, Josh Elton a Calum Stewart yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth 2017.[3]

Roedd hi'n un o griw 'Gwerthu Allan' ar S4C yn 2016.

Mae Beth hefyd wedi gwneud sets comedi fel rhan o sesiynau Stand Up For Wales a drefnir gan grŵp Abertawe o Yes Cymru.

Radio[golygu | golygu cod]

  • Radio 4 Extra - Pan oedd yn perfformio yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth 2017, roedd hi a Phil Cooper yn rhan o eitem am gomedi Cymraeg a Chymreig o'r Ŵyl gyda'r comedïwr a'r cyflwynydd Saesneg amlwg, Arthur Smith.[4]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]