Bryn Williams

Oddi ar Wicipedia
Bryn Williams
Ganwyd6 Mehefin 1977 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpen-cogydd Edit this on Wikidata

Pen-cogydd yw Bryn Williams (ganwyd 6 Mehefin 1977) sy'n wreiddiol o Ddinbych. Mae'n brif ben-cogydd ac unig berchennog bwyty Odette's yn Primrose Hill, Llundain.[1]

Daeth yn enwog yn 2006 fel dirprwy brif ben-cogydd gan guro nifer o gogyddion adnabyddus i gael coginio'r cwrs pysgod ar gyfer dathliadau pen-blwydd 80 oedd y Frenhines ar y rhaglen deledu Great British Menu.[2] Erbyn hyn mae'n cael ei gydnabod fel un o brif gogyddion gorau Cymru ac yn un o gogyddion "seleb" newydd gwledydd Prydain. Yn Mehefin 2015 agorodd ei fistro newydd, Bryn@Porth Eirias, ar lan y môr yn nhre Bae Colwyn.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Bryn Dwyfor Williams yn blentyn canol o dri brawd a anwyd yn Ysbyty H M Stanley, Llanelwy, Sir Ddinbych. Cafodd ei holl addysg trwy gyfrwng y Gymraeg cyn symud ymlaen i goleg. Mynychodd Ysgol Gynradd Twm o'r Nant, Dinbych (Cynradd) ac Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy (Uwchradd). Roedd Williams yn byw yn Ninbych hyd ei fod yn 18, cyn symud i Lundain.

Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ddiddordeb Williams mewn bwyd fel plentyn ifanc pan aeth ar ymweliad gyda'i ysgol gynradd i becws yn Ninbych. Fe wnaeth gweld y cynhwysion unigol yn troi i mewn i fara ennyn ei ddiddordeb mewn bwyd a'i brosesau a fyddai'n aros gydag ef. Yn ei harddegau bu'n gweithio yn yr un becws ar foreau Sadwrn. Yn ogystal datblygodd barch am fwyd wrth dyfu llysiau, pysgota a saethu gêm ar fferm ei ewythr fel bachgen ifanc.

Ar ôl gadael ysgol uwchradd yn 16 oed aeth i Goleg Llandrillo Cymru – i astudio arlwyo – lle enillodd wobr myfyriwr y flwyddyn. Yn 2009 penodwyd Williams yn Llysgennad Sgiliau ar gyfer y coleg, swydd a grëwyd yn arbennig ar ei gyfer.[3]

Ar ôl gadael coleg a gweithio yn Nghaffi Nicoise ym Mae Colwyn, cafodd ei hannog gan y pen-cogydd i gymryd ei sgiliau i Lundain. Cafodd swydd gyda'r prif ben-cogydd Marco Pierre White yn y Criterion.

Gyrfa broffesiynol[golygu | golygu cod]

Ar ôl 3 blynedd yn dysgu ei grefft o dan Marco Pierre White yn y Criterion, daeth yn ddirprwy prif ben-cogydd o dan diwtoriaeth dewin coginiol arall, Michel Roux Jr yn Le Gavroche am gyfnod pellach o dair blynedd.[4] Yn 2001, cafodd gyfle i brofi dull coginio Ewropeaidd ar y llaw gyntaf, yn gweithio yn y Patisserie Miled ym Mharis, lle gwnaeth y teulu Roux hogi eu sgiliau. Yn yr un flwyddyn, aeth ymlaen i weithio yn y Hotel Negresco, bwyty dwy seren Michelin yn Nice.

Wedi dychwelyd i Brydain, symudodd Williams i bwyty Orrery (â Seren Michelin) ar Marylebone High Street yn Llundain, gan weithio yno am bedair blynedd o dan diwtoriaeth y pen-cogydd André Garrett. Wrth weithio yn yr Orrery cystadlodd am Ysgoloriaeth Roux, a chafodd eu hannog i gymryd rhan gan Garrett a oedd ei hun yn enillydd blaenorol y wobr fawreddog. Gorffennodd Williams yn ail y flwyddyn honno.[5]

Odette's[golygu | golygu cod]

Yn dilyn ei lwyddiant ar y gyfres deledu Great British Menu 2006, cynigwyd swydd i Williams fel pen-cogydd yn Odette's, bwyty uchel ei barch yn Primrose Hill, Llundain ers 1978.[6] Roedd y bwyty newydd gael ailwampiad drud ar ôl cael ei brynu gan Vince Power, oedd yn chwilio am yr enw cywir ar gyfer ei fenter coginio ddiweddaraf.

Prynodd Williams y bwyty gan y perchennog ar 1 Hydref 2008 a daeth yn unig berchennog Odette's. Mae adolygiadau'r gwesty o dan Williams wedi bod yn dda iawn.[7][8][9]

Bryn@Porth Eirias[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd ar 9 Medi 2013 y byddai Williams yn agor bistro mewn canolfan chwaraeon dŵr ar y promenâd Bae Colwyn. Gwnaed y cyhoeddiad yn agoriad swyddogol Porth Eirias gan y Prif Weinidog Carwyn Jones. Agorodd y bistro ym mis Mehefin 2015.[10]

Gorsedd y Beirdd[golygu | golygu cod]

Cafodd Williams ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2013 yn ei dref enedigol o Ddinbych.[11]

Cyfryngau[golygu | golygu cod]

Ymddangosiadau teledu[golygu | golygu cod]

Yn 2006 roedd yn gystadleuydd ar Great British Menu ar BBC Two, gan greu argraff y beirniaid drwy gydol y gystadleuaeth. Holodd Williams ei nain am y bwydydd roedd hi'n arfer bwyta fel plentyn cyn dewis bwydlen.[12] Curodd Angela Hartnett yn y rownd ranbarthol, ac aeth ymlaen i ennill pleidlais y cyhoedd i goginio ei gwrs pysgod o 'Turbot with Oxtail' yng ngwledd pen-blwydd Brenhines Elisabeth yn 80 mlwydd oed. Cadwodd ei goron drwy guro Matt Tebbutt yn 2007. Ers hynny daeth yn wyneb cyfarwydd ar Saturday Kitchen, yn ogystal ag ymddangosiadau ar Something for the Weekend a Market Kitchen.

Mae Williams wedi ymddangos mewn nifer o raglenni Cymraeg ar S4C. Roedd yn un o'r tri beirniad ar y gystadleuaeth coginio boblogaidd Chez / Casa Dudley,  gyda thrydedd gyfres yn Hydref 2008.

Cychwynnodd cyfres chwe rhan o gyfres Cegin Bryn ar S4C ym mis Mawrth 2012.[13] Mae'r rhaglen yn seiliedig ar ei llyfr coginio Bryn's Kitchen ac yn cynnwys chwech o gynhwysion allweddol, wedi'u coginio mewn 3 gwahanol ffordd tra hefyd yn olrhain ei daith o'r ffynhonnell i'r plât. Dilynodd ail gyfres o Cegin Bryn yn Ionawr 2013, trydydd cyfres yn Ionawr 2014, pedwaredd cyfres yn 2015 wedi ei seilio ar ei lyfr For the Love of Veg a phumed cyfres wedi seilio ar ei lyfr Cymraeg cyntaf Tir a Môr yn Ebrill 2016.[14]

Coginiodd Williams yn fyw bob dydd yng nghegin GMTV  Myleene Klass yn ystod wythnos olaf ei 17 mlynedd fel darlledwr teledu brecwast ar ITV. Daeth GMTV i ben ar 3 Medi 2010.

Ymddangosiadau radio[golygu | golygu cod]

Ar 21 Mawrth 2010 ymddangosodd Williams ar raglen Wales on the Menu ar BBC Radio Wales, lle'r oedd y beirniad bwyd Simon Wright yn herio cyhoedd Cymru i geisio i gael eu pryd ar brif fwydlen Bryn Williams yn Llundain. Gwnaeth y myfyriwr 23 mlwydd oed Tom Jones Watts greu gymaint o'i argraff gyda'i arlwy gymhleth o gwningen Gymreig fel y cynigiodd swydd barhaol iddo fel dirprwy gogydd.[15]

Llyfrau coginio[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd Williams ei lyfr cyntaf, Bryn's Kitchen, ym mis Mawrth 2011. Cyhoeddwyd ei ail lyfr, For The Love of Veg, ym mis Hydref 2013.

Nawdd[golygu | golygu cod]

Mae Bryn yn Noddwr Gwledd Conwy Feast,[16] yr ŵyl fwyd ail fwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 25,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Penodwyd Williams yn un o 7 noddwyr y chwaraewr rygbi Martyn Williams ar gyfer ei flwyddyn dysteb yn 2010. Cododd ei ymgyrch Ysbryd Cymru arian ar gyfer plant sy'n agored i niwed a dioddefwyr canser. Roedd noddwyr eraill yn cynnwys Ian Woosnam, Ioan Gruffudd a James Dean Bradfield.[17]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Bryn Williams becomes chef-proprietor of Odette's. The Caterer (1 Hydref 2008). Adalwyd ar 27 Ebrill 2016.
  2. Chef's royal fish dish wins vote (en) , BBC News, 3 Mehefin 2006. Cyrchwyd ar 27 Ebrill 2016.
  3. Coleg Llandrillo Cymru. 2007.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-03. Cyrchwyd 2016-04-27.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-19. Cyrchwyd 2016-04-27.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-16. Cyrchwyd 2016-04-27.
  7. John Lanchester. The Guardian newspaper review of Odette's under Williams (en) , The Guardian, 6 Tachwedd 2010. Cyrchwyd ar 27 Ebrill 2016.
  8. View London's review of Odette's January 2011
  9. Jay Rayner's review of Odette's January 2012[dolen marw]
  10. Chef Bryn Williams to open bistro at Colwyn Bay water sports centre (en) , BBC News, 9 Medi 2013. Cyrchwyd ar 27 Ebrill 2016.
  11. Sion Morgan. National Eisteddfod to honour Bryn Williams and Malcolm Allen in Gorsedd of Bards (en) , WalesOnline, 22 Mai 2013. Cyrchwyd ar 27 Ebrill 2016.
  12. Hill, A: "The Observer".
  13. "S4C - Cegin Bryn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-25. Cyrchwyd 2016-04-27.
  14. Helen Harper. TV chef Bryn Williams hosts new series of Cegin Bryn (en) , Daily Post, 9 Ebrill 2016. Cyrchwyd ar 27 Ebrill 2016.
  15. Sally Williams. Main dish of self-caught rabbit wins passionate young student a place at top restaurant (en) , WalesOnline, 28 Mawrth 2013. Cyrchwyd ar 27 Ebrill 2016.
  16. http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2008/08/19/gwledd-conwy-feast-october-25-26-55578-21558192/
  17. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-27. Cyrchwyd 2016-04-27.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]