Martyn Williams
Martyn Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1 Medi 1975 Pontypridd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 185 centimetr |
Pwysau | 100 cilogram |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Pontypridd, Rygbi Caerdydd |
Safle | blaenasgellwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr Rygbi'r Undeb dîm rhanbarthol Gleision Caerdydd a Chymru yw Martyn Elwyn Williams (ganed 1 Medi 1975). Mae'n chwarae fel blaenasgellwr.
Mae'n enedigol o Bontypridd. Bu'n chwarae rygbi dros glybiau Pontypridd a Chaerdydd, gan weithredu fel capten Caerdydd o 2002 hyd 2005. Ymunodd a'r Gleision pan ddechreuodd rygbi rhanbarthol yng Nghymru.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn y Barbariaid yn 1996, yna chwaraeodd ei gêm gyntaf ynm Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr yn 1998. Bu'n gapten Cymru am y tro cyntaf yn erbyn yr Alban yn 2003. Roedd yn rhan o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2005, gan ennill ei 50fed cap i Gymru yn y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr. Sgoriodd ddau gais pwysig yn ail hanner y gêm yn erbyn Ffrainc, ac enwyd ef yn chwaraewr gorau'r bencampwriaeth.
Dewiswyd ef ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn niwedd 2005. Yn dilyn perfformiad siomedig Cymru yng Nghwpan y Byd 2007, cyhoeddodd ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol. Fodd bynnag, perswadiodd hyfforddwr newydd Cymru, Warren Gatland, ef i ail-ystyried, a bu'n rhan o'r tîm a gyflawnodd y Gamp Lawn eto yn 2008.