Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig
| Enghraifft o: | tîm rygbi'r undeb, metaorganization |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1888 |
| Perchennog | Undeb Rygbi Lloegr, Undeb Rygbi Cymru, Undeb Rygbi'r Alban, Undeb Rygbi Iwerddon |
| Pencadlys | Dulyn |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon |
| Gwefan | https://www.lionsrugby.com |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/018vb |
| Quora | British-and-irish-lions |
Tîm rygbi'r undeb sy'n cael ei ddewis o chwaraewyr gorau timau ’r Alban, Cymru, Iwerddon a Lloegr yw'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig, fel rheol Y Llewod. Arferid cyfeirio at y tîm fel Y Llewod Prydeinig, ond newidiwyd yr enw oherwydd gwrthwynebiad llawer o Wyddelod i'r enw yma. Mae'r Llewod yn chwarae gemau prawf; chwaraewyr rhyngwladol sydd fel arfer yn cael eu dewis i'r garfan, ond caniateir dewis chwaraewyr nad ydynt wedi chwarae dros eu gwlad ond sy'n gymwys i’w wneud. Mae'r garfan yn teithio bob pedair blynedd, i Awstralia, Seland Newydd a De Affrica yn eu tro. Collwyd Cyfres Brawf 2009 2-1 i Dde Affrica, enillwyd Cyfres 2013 2-1 yn erbyn Awstralia, cyfartalwyd Cyfres 2017 1-1 gydag un gêm gyfartal, collwyd Cyfres 2021 2-1 i Dde Affrica, ac enillwyd Cyfres 2025 2-0 gydag un gêm brawf yn weddill.
Mae carfan o chwaraewyr gwledydd Prydain ac Iwerddon wedi bod yn teithio i Hemisffer y De ers 1888. Menter fasnachol oedd y daith gyntaf, heb unrhyw gefnogaeth swyddogol. Tyfodd y gefnogaeth hon dros y chwe thaith ganlynol, hyd nes i'r daith i Dde Affrica yn 1910 gynrychioli'r pedwar Undeb am y tro cyntaf.
Mae'r Llewod wedi chwarae yn y crysau coch gyda bathodyn sy'n cyfuno bathodynau'r pedwar Undeb Rygbi ers canol yr 20g.
