Pontypridd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°36′09″N 3°20′32″W / 51.60252°N 3.34215°W / 51.60252; -3.34215

Pontypridd
Pontypridd New Bridge.jpg
Pontypridd
Pontypridd is located in Rhondda Cynon Taf
Pontypridd

 Pontypridd yn: Rhondda Cynon Taf
Poblogaeth 29,781 
Cyfeirnod grid yr AO ST075895
Sir Rhondda Cynon Taf
Sir seremonïol Morgannwg Ganol
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost PONTYPRIDD
Rhanbarth cod post CF37
Cod deialu 01443
Heddlu De Cymru
Tân De Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Pontypridd
Cynulliad Cymru Pontypridd,
South Wales Central Electoral Region
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Rhondda Cynon Taf

Mae Pontypridd yn dref yn Rhondda Cynon Taf, de Cymru. Mae wedi ei lleoli tua deuddeg milltir i’r gogledd o Gaerdydd, a chanddi boblogaeth o tua 33,000. Mae Llundain yn 224.1 km.

Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 13.9% o boblogaeth Pontypridd yn medru’r Gymraeg, 21.3% ag un neu ragor o fedrau yn Gymraeg, a thua chwarter plant oedran addysg gynradd y dref yn mynychu ysgolion Cymraeg.

Deillia enw’r dref o 'Pont y tŷ pridd'. Yn ôl hanes lleol, safai tŷ traddodiadol wedi ei wneud o bren, gwrysg a phridd ar lan Afon Taf, a dyma’r enw a roddwyd i’r nifer o bontydd a godwyd dros yr afon (gweler Ifor Williams, Enwau Lleoedd, tud. 56). Erbyn heddiw, Ponty yw’r enw a ddefnyddir gan drigolion yr ardal wrth gyfeirio at y dref ar lafar. Mae hi hefyd yn efeilldref gyda Nürtingen, yn yr Almaen.

Y Bont[golygu | golygu cod y dudalen]

Pontypridd: yr Hen Bont

Honnir i bont Pontypridd fod ymhlith y rhai enwocaf yng Nghymru, ac yn 2006, yr oedd hi’n dathlu 250 o flynyddoedd ers ei chodi. Pan y’i codwyd hi, hon oedd y bont rhychwant sengl hiraf yn y byd. Adeiladwyd y bont gan ŵr o’r enw William Edwards (1719-1789) a oedd yn weinidog Anghydffurfiol a saer maen hunan-ddysgedig.

Pont Pontypridd oedd ei greadigaeth fwyaf poblogaidd, a adeiladwyd rhwng 1746 a 1754. Yr oedd hi’n bont mor hir (yn pontio 140 troedfedd) nes iddi gymryd tair neu bedair ymgais i’w chodi yn llwyddiannus. Yn ôl rhai, dyma oedd tarddiad y dywediad “Tri chynnig i Gymro”.

Golchwyd y gyntaf, a wnaed o bren, i ffwrdd gan lifogydd, a chwympodd yr ail, a’r drydedd, a wnaed o gerrig, wrth eu hadeiladu oherwydd y pwysau. Cafodd y bont olaf ei gwneud o gerrig yn ogystal, ond y tro hwn yr oedd hi’n llawer ysgafnach. Ynddi roedd chwe thwll mawr, tri bob ochr gyda diamedr o 9, 6 a 3 troedfedd. Cafodd William Edwards dâl o £500 ar yr amod y byddai’r bont yn sefyll am saith mlynedd.

Diwydiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd camlas Morgannwg ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, gan gyrraedd Pontypridd yn 1794. Dyma oedd dechrau datblygiad diwydiannol Pontypridd. Cafwyd twf aruthrol ym Mhontypridd yn sgil twf diwydiannau Cymoedd Rhondda. Pontypridd, wrth aber afon Rhondda, a ddaeth yn brif dref farchnad yr ardal. Prif ffatri’r dref oedd gwaith cadwynau Brown Lenox, a ddechreuwyd yn 1816.[1]

Clwb y Bont[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Clwb y Bont yn glwb cymdeithasol ar ffurf tafarn a gafodd ei sefydlu yn 1983 ac wedi ei leoli ar lan Afon Taf. Sefydlwyd y clwb i hybu Cymreictod yr ardal ydoedd, gan roi cyfle i siaradwyr Cymraeg yr ardal gwrdd â’i gilydd. Ceir llawer o fandiau yn chwarae yno ar benwythnosau. Mae ystafell gyfarfod uwchben y clwb lle cynhelir gwersi Cymraeg a dosbarthiadau llên.

Corau Cymraeg yr Ardal[golygu | golygu cod y dudalen]

Côr Godre’r Garth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Côr Godre'r Garth yn gôr cymysg gyda 60 o aelodau. Mae'r côr yn ymarfer yn Efail Isaf a daw'r aelodau o ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, y Rhondda a Chwm Rhymni yn ogystal â Thaf Elái.

Ffurfiwyd y côr yn 1974 gyda'r nod o hybu Cymreictod mewn ardal oedd, yr adeg honno, ar fin colli'r iaith yn llwyr. Denwyd nifer o ddysgwyr i rengoedd y Côr a bu'n fodd i nifer i loywi eu hiaith.[2]

Cangen Merched y Wawr[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd cangen Pontypridd o Ferched y Wawr yn y flwyddyn 2008. Rhyw 20 o aelodau sydd i'r gangen.[3]

Preswylwyr enwog[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pontypridd (pob oed) (32,694)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pontypridd) (3,978)
  
12.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pontypridd) (26754)
  
81.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pontypridd) (5,478)
  
40.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ym 1893. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldref[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gol. J Davies, M Baines, N Jenkins a P Lynch, Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig, t737 (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008)
  2. Gwefan Côr Godre’r Garth
  3. tudalen Pontypridd ar wefan Merched y Wawr
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013