Evan James
Evan James | |
---|---|
Ffugenw | Ieuan ap Iago |
Ganwyd | 1809 Caerffili |
Bu farw | 30 Medi 1878 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, bardd, gwëydd |
Plant | James James |
Awdur Hen Wlad fy Nhadau, anthem genedlaethol Cymru, oedd Evan James o Bontypridd ("Ieuan ap Iago"; 1809 – 30 Medi 1878). Ei fab, James James, oedd y cyfansoddwr.
Gwëydd oedd James wrth ei waith a roedd yn cyflogi sawl gweithiwr yn ei felin ar lan Afon Rhondda. Roedd hefyd yn berchen Tafarn yr Ancient Druid yn Argoed, Bedwellte, Sir Fynwy
Yn ôl chwedl deuluol, roedd ei fab James James yn cerdded un diwrnod ar lan yr afon pan ddaeth alaw Hen Wlad fy Nhadau i'w feddwl. Pan roddodd yr alaw i'w dad, cyfansoddodd Evan James y geiriau a ddaeth i fod yn anthem cenedlaethol Cymru. Mae'n debyg fod Evan wedi ei ysbrydoli gan y ffaith fod dau o'i frodyr wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau ac wedi ysgrifennu yn canmol eu gwlad mabwysiedig a'i annog i ymuno â nhw.[2]
Mae cofeb i Evan James a'i fab, ar ffurf dau ffigwr yn cynrychioli Barddoniaeth a Cherddoriaeth, yn sefyll ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd. Dangosir wyneb Evan nesaf at ei dad, ond mae'n ymddangos yn ifancach am fod y ffotograffau oedd ar gael i'r cerflunydd, Goscombe John, wedi eu cymryd blynyddoedd ar wahan.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Welsh anthem - The background to Hen Wlad Fy Nhadau". BBC. 2008-12-01.
- ↑ Evan a James James. BBC. Adalwyd ar 8 Medi 2018.