Hen Wlad fy Nhadau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Welsh National Anthem (4655569).jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Anthem genedlaethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu Ionawr 1856 Edit this on Wikidata
Libretydd Evan James Edit this on Wikidata
Cyfansoddwr James James Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1af Maesteg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
dde
Siop Nain, Rhuthun, lle cyhoeddwyd yr anthem am y tro cyntaf.
Y copi cynharaf o Hen Wlad fy Nhadau, 1856

Anthem genedlaethol Cymru yw Hen Wlad fy Nhadau. Ysgrifenwyd y geiriau gan Evan James (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab James James (1833-1902) ym mis Ionawr 1856. Roedd y ddau yn drigolion o Bontypridd. Gwehydd a bardd oedd y mab, a thelynor oedd y tad.

Ymddengys y sgwennwyd y geiriau fel ymateb i wahoddiad gan y bardd a dderbyniasai gan ei frawd i ymuno ag ef yn yr Unol Daleithiau, lle’r oedd cynifer o Gymry’r cyfnod yn chwilio am well byd, a bod y gân yn ddatganiad fod gwlad genedigaeth y bardd (sef ‘gwlad ei dadau’) yn ddigon da iddo ef. Rhoddwyd iddi yr enw ‘Glan Rhondda’, gan mai ar lannau’r afon, yn ôl traddodiad, y daeth yr alaw i feddwl y cyfansoddwr.

Perfformiwyd y gân, neu 'Glan Rhondda' fel y gelwid hi'n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, Maesteg yn Ionawr neu Chwefror 1856, gan gantores leol, Elizabeth John. Argraffwyd y geiriau'n unigrhagor ar ffurf baled, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn Eisteddfod Llangollen, 1858, ar ôl i Llewelyn Alaw (Thomas David Llewelyn) (1828–79) o Aberdâr ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Fodd bynnag, ni phriodolwyd y geiriau i Evan a James James!

Cynhwyswyd y geiriau a'r alaw, eto yn ddienw, gan feirniad y gystadleuaeth, John Owen (Owain Alaw; 1821–83) yn ei gasgliad cyntaf o Gems of Welsh Melody a gyhoeddwyd gan Isaac Clarke yn Rhuthun yn 1860. Dyma'r argraffiad cyntaf o'r geiriau a'r alaw ac fe'u hargraffwyd yn yr adeilad du-a-gwyn a elwir heddiw yn 'Siop Nain'.

Owain Alaw oedd yn gyfrifol am drefnu fersiwn gwreiddiol James James a rhoi i’r gân y naws emynyddol a’i gwnaeth yn gân dorfol boblogaidd: mae copïau llawysgrif cynnar yn awgrymu mai alaw ddawns ysgafn yn amseriad cyfansawdd 6/8 oedd ei ffurf wreiddiol gan James James, a oedd yn delynor poblogaidd a chwaraeai mewn tafarndai yn ei ardal. O fewn ychydig flynyddoedd, daeth y gân yn adnabyddus mewn eisteddfodau, a’i defnyddio’n gân gystadleuol gan gorau yn ogystal ag yn gân i’w chanu i gloi defodau a chyngherddau. Ceir tystiolaeth er enghraifft iddi gael ei chanu fwy nag unwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, ac fe’i poblogeiddiwyd gan Eos Morlais (Robert Rees) wedi iddo ei chanu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1874.

Fe’i canwyd am y tro cyntaf mewn gêm rygbi ryngwladol ar achlysur gornest fawr Cymru yn erbyn Seland Newydd yn 1905. Mae ei phoblogrwydd mewn gemau rygbi rhyngwladol yn yr 20g. wedi sicrhau ei bod yn adnabyddus fel anthem ar draws y byd, ac fe’i cynhwysir yn rheolaidd mewn casgliadau printiedig o anthemau cenedlaethol y gwledydd. Mae ei symudiad llyfn a’r uchafbwyntiau a geir yn y gytgan yn ei gwneud yn gân addas tu hwnt i dorfeydd, ac fe’i hystyrir yn gyffredinol yn un o’r goreuon o blith anthemau cenedlaethol.

Recordiad cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwnaed y recordiad Cymraeg cyntaf, sydd yn hysbys, yn Llundain ar 11 Mawrth 1899, pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o’r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y Llyfrgell Genedlaethol.

Amrywiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddir fersiynau o’r anthem gan Gernyw, Bro Goth Agan Tasow ac yn Llydaw ers 1902, Bro Gozh ma Zadoù. Mae’n debyg fod fersiwn i’w chael yn India yn ogystal. Mae pobl y Khasi, yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi mabwysiadu ein hanthem ni fel un eu hunain. Enw eu hanthem yw Ri Khasi, ac aiff y traddoddiad nôl i’r 1800au, pan aeth cenhadon meddygol Cymraeg drosodd i’r ardal.

Yn y 1970au cafwyd fersiwn roc ohoni gan Tich Gwilym yn null Jimi Hendrix.

Bu cryn dynnu coes ar John Redwood (Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd) am ei ymdrechion i ganu'r anthem yn ystod cynhadledd Gymreig y Blaid Geidwadol. Yn anffodus, doedd ddim yn gwybod y geiriau, ac ni lwyddodd guddio'r ffaith mai meimio oedd o.[1]

Geiriau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Dros ryddid collasant eu gwaed.
Cytgan
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad.
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r heniaith barhau.
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i mi.
Cytgan
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,
Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Cytgan

Cyfieithiadau:

The old land of my fathers is dear to me,

Land of bards and singers, famous men of renown;

Her brave warriors, very splendid patriots,

For freedom shed their blood.

Nation [or country], Nation, I am faithful to my Nation.

While the sea [is] a wall to the pure, most loved land,

O may the old language [sc. Welsh] endure.

Old mountainous Wales, paradise of the bard,

Every valley, every cliff, to my look is beautiful.

Through patriotic feeling, so charming is the murmur

Of her brooks, rivers, to me.

If the enemy oppresses my land under his foot,

The old language of the Welsh is as alive as ever.

The muse is not hindered by the hideous hand of treason,

Nor [is] the melodious harp of my country.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  BBC (24 Awst, 2001). Are Tories jinxed in Wales?. Adalwyd ar 23 Mehefin 2010.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Hen Wlad fy Nhadau ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Comisiynwyd y cofnod hwn yn wreiddiol ar gyfer Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, (Y Lolfa, 2018). Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

.