Aberdâr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aberdâr
Aberdare-View from road to Ferndale.jpg
Math tref, cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Montélimar Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Rhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51°42'47"N, 3°26'42"W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000679 Edit this on Wikidata
Cod OS SO005025 Edit this on Wikidata
Cod post CF44 Edit this on Wikidata
Cod deialu 01685 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Vikki Howells (Llafur)
AS/au Ann Clwyd (Llafur)

Tref yng Nghwm Cynon ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Aberdâr (llurguniad Saesneg: Aberdare). Cyfeirnod OS: SO0002. Lluosog "derwen" ydy "dâr", ac mae'r enghraifft ysgrifenedig gyntaf o'r gair yn dyddio o 1203.[angen ffynhonnell] Ceir hefyd yng ngogledd Cymru Aberdaron, sydd hefyd yn ymwneud â choed derw. Ym 1991 roedd poblogaeth y dref yn 31,619. Mae Aberdâr bedair milltir o Ferthyr Tudful a thua 24 milltir o Gaerdydd, ar Afon Cynon. Mae gwasanaeth rheilffordd rhwng Aberdâr a Chaerdydd trwy Gwm Cynon.

Marchnad Aberdâr

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Ann Clwyd (Llafur).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Aberdâr yn sir hanesyddol Morgannwg. Yng Nghwmbach Aberdâr y ffurfiwyd y gangen gyntaf o'r Gymdeithas Gydweithredol yng Nghymru, ym 1860.

Yn wreiddiol, ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd pentref Aberdâr mewn ardal amaethyddol, ond pan ddarganfuwyd llawer o lo a mwyn haearn yn yr ardal cynyddodd y boblogaeth yn gyflym iawn. Sefydlwyd gweithdai haearn yn Llwydcoed ac Abernant ym 1799 a 1800, wedi'u dilyn gan eraill yn Gadlys ac Aberaman ym 1827 a 1847. Nid yw'r rhain wedi gweithio ers 1875. Cyn 1836, câi'r rhan fwyaf o'r glo ei ddefnyddio yn lleol, yn bennaf yn y gweithdai haearn, ond wedyn dechreuwyd allforio glo o dde Cymru. Yn ail hanner y 19g, gwellodd y dref yn fawr.

Aberdâr oedd cartref un o feirdd yr Ail Ryfel Byd, Alun Lewis, ac mae dyfyniad o'i gerdd The Mountain over Aberdare i'w weld yn y dref. Dyma gartref y Stereophonics hefyd, sy'n dod o Gwmaman. Fel mae'n digwydd mae yna Aberdare yn Ne Cymru Newydd, Awstralia, sydd hefyd yn cynnwys pyllau glo.

Eglwysi a Chapeli[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar un adeg yr oedd nifer fawr o gapeli anghydffurfiol yn Aberdâr a'r cyffiniau ond mae'r mwyafrif ohonynt wedi cau erbyn hyn.

Y Bedyddwyr oedd y mwyaf dylanwadol o'r enwadau anghydffurfiol yn Aberdâr ac fe sbardunwyd eu tŵf gan y Parch. Thomas Price a ddaeth i Aberdâr ym 1845 fel gweinidog Calfaria, eglwys a sefydlwyd yn wreiddiol yn 1812.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberdâr ym 1861, 1885 a 1956. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]